Chwech wedi eu hanafu mewn gwrthdrawiad un cerbyd yng Nghaerdydd
02/09/2022
Mae Heddlu De Cymru yn ymchwilio wedi i chwe pherson gael eu hanafu mewn gwrthdrawiad un cerbyd yng Nghaerdydd.
Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad ar yr A4232 rhwng Croes Cwrlwys a Lecwydd am tua 23:35 ar nos Iau, 1 Medi.
Roedd y gwrthdrawiad yn cynnwys Fiat Punto llwyd a adawodd y ffordd, gan daro coed a mynd ar dân.
Cafodd y chwe pherson oedd yn y car eu cludo i Ysbyty Athrofaol Caerdydd lle maen nhw'n derbyn triniaeth am eu hanafiadau.
Mae Heddlu'r De yn apelio am wybodaeth gan unrhyw un a welodd y gwrthdrawiad, neu sydd â deunydd fideo o ffôn symudol neu gamera dashfwrdd i gysylltu â nhw gan ddefnyddio cyfeirnod 2200298022.
Llun: Google