Cit newydd Cymru yn cael ei weld ar y stryd fawr am y tro cyntaf
Mae cit newydd Cymru ar gyfer Cwpan y Byd Qatar wedi cael ei weld mewn ffenest siop yng Nghaerdydd am y tro cyntaf.
Roedd y cit cartref ac oddi cartref yn cael eu harddangos yn ffenest siop JD Sports ar Stryd y Frenhines yng nghanol y brifddinas.
Mae'r cit cartref yng nghoch traddodiadol Cymru, tra bod y cit oddi cartref yn wyn gyda rhai mannau'n goch a gwyrdd, tebyg i git oddi cartref 2018.
Nid yw'r cit ar gael i'w brynu ar hyn o bryd, ond gall cefnogwyr archebu'r crysau newydd cyn iddynt fynd ar werth yn swyddogol ar 21 Medi. Bydd y crys ar werth am bris o £70.
Mae cefnogwyr eisoes wedi cael cipolwg o'r cit wedi i'r DJ Jamie Jones ei wisgo ar ei gyfrif Instagram ac yng ngŵyl gerddoriaeth Creamfields.
Ond dyma'r tro cyntaf i'r cit gael ei weld ar y stryd fawr.
Llun: Jason Hewitt/Facebook