Teyrnged i 'dad cariadus' fu farw mewn gwrthdrawiad yn Sir Benfro
Mae teulu dyn 34 oed fu farw mewn gwrthdrawiad yn Sir Benfro yr wythnos diwethaf wedi rhoi teyrnged iddo.
Bu farw Andrew Clark yn y fan a'r lle wedi gwrthdrawiad rhwng pedwar cerbyd ar Ffordd Freeman yn nhref Hwlffordd ar 26 Awst.
Dywedodd ei deulu mewn teyrnged ei fod yn "rhy ifanc o lawer i gael ei gymryd, ac roedd llawer mwy o fywyd ar ôl gydag ef i fyw".
"Roedd Andrew’n dad cariadus a oedd yn meddwl y byd o’i ddwy ferch. Gweithiodd yn galed i ddarparu ar eu cyfer, ac roedd yn garedig, hael, ac yn barod i helpu eraill," meddai'r teulu,
Ychwanegodd ei deulu ei fod yn "dynnwr coes ac wrth ei fodd yn cael sbort a chellwair!"
"Bydd ei deulu a’i ffrindiau’n gweld eisiau Andrew’n fawr."
Mae'r heddlu'n apelio ar unrhyw un sydd â gwybodaeth am y digwyddiad i gysylltu â nhw gan ddefnyddio'r cyfeirnod DP-20220826-338.