Y Ras i Rif 10: Cyfnod pleidleisio yn dod i ben
Mae'r cyfnod pleidleisio yn yr etholiad ar gyfer arweinydd nesaf y blaid Geidwadol yn cau ddydd Gwener.
Ni fydd unrhyw bleidleisiau sy'n cael eu cyflwyno ar ôl 17:00 yn cael eu cyfrif tuag at ganlyniad yr etholiad.
Bydd y canlyniad hynny yn cael ei gyhoeddi ddydd Llun, cyn i'r enillydd gymryd yr awenau fel Prif Weinidog y DU ddydd Mawrth.
Bydd naill ai'r Ysgrifennydd Tramor Liz Truss neu'r cyn-Ganghellor Rishi Sunak yn olynu Boris Johnson yn Rhif 10, Downing Street.
Mae'r ddau wedi mynd benben â'i gilydd mewn nifer o ddadleuon ar y teledu a dadleuon o flaen aelodau'r blaid mewn ymdrech i ennill cefnogaeth.
Mae'r dadleuon wedi canolbwyntio'n bennaf ar yr argyfwng costau byw, gyda disgwyl i'r prif weinidog nesaf gyflwyno pecyn o fesurau i fynd i'r afael â'r heriau.
Mae Rishi Sunak am dorri cyfradd syml treth incwm o 20% a chael gwared ar Dreth Ar Werth (TAW) ar filiau ynni dros-dro er mwyn helpu teuluoedd drwy'r gaeaf.
Mae Liz Truss hefyd am ddadwneud y cynnydd yn yr Yswiriant Gwladol a stopio'r cynnydd mewn treth gorfforaethol rhag digwydd.
Cafodd y ddadl olaf o flaen aelodau'r blaid ei chynnal yn Llundain nos Fercher - y deuddegfed ers dechrau'r ymgyrch.
Mae unrhyw aelod sydd wedi bod yn rhan o'r blaid ers hyd at 3 Mehefin 2022 yn gymwys i bleidleisio yn yr etholiad, gyda modd i bobl bleidleisio drwy'r post neu ar-lein.
Llun: Andrew Parsons / Rhif 10 Downing Street