Chwaraewr Fiji yn ymuno â chlwb rygbi Pontypridd
31/08/2022
Mae'r chwaraewr rhyngwladol dros Fiji, Nikola Matawalu, wedi ymuno gyda chlwb rygbi Pontypridd.
Mae'r chwaraewr 33 oed wedi cyfnewid Paris am y cymoedd wrth iddo adael Racing 92 yn Ffrainc.
Yn ystod ei yrfa, bu'r mewnwr, sydd hefyd yn gallu chwarae ar yr asgell, hefyd yn chwarae gyda Glasgow Warriors, Caerfaddon a Chaerlŷr.
Mae hefyd wedi ennill 36 o gapiau dros Fiji, gan gynnwys yn erbyn Cymru'r flwyddyn ddiwethaf yn ystod cyfres yr Hydref.
Fe fydd Matawalu yn ymuno gyda'r clwb fel chwaraewr a hyfforddwr sgiliau rhan amser, wrth iddo astudio cwrs hyfforddi rygbi ym Mhrifysgol De Cymru.
Llun: Clwb Rygbi Pontypridd