Rhybudd am algâu gwyrddlas mewn pwll ger parc gwledig
Mae Cyngor Bwrdeistref Caerffili wedi rhybuddio pobl am algâu gwyrddlas mewn pwll ger parc gwledig Pen y Fan.
Dywed swyddogion y gallai'r algâu fod yn niweidiol i bobl ac anifeiliaid, ac fe ddylid cadw anifeiliaid allan o'r pwll.
Fe allai'r algâu achosi pobl fod yn sâl os yw'n cael ei yfed, ac fe allai achosi gyflwr ar y croen os yw pobl yn ymdrochi yn y pwll.
Dywedodd y Cynghorydd Chris Morgan, Aelod Cabinet â chyfrifoldeb am Fannau Gwyrdd y cyngor: “Hoffem sicrhau trigolion bod y parc yn parhau i fod yn ddiogel i ymweld ag ef a’i fwynhau, heb achosi pryder gormodol.
"Fodd bynnag, mae'n hanfodol nad oes unrhyw weithgareddau hamdden, gan gynnwys pysgota a mynediad cyhoeddus i'r pwll ei hun.
"Mae arwyddion wedi'u gosod o amgylch y pwll a bydd archwiliadau rheolaidd o'r dŵr yn parhau i gael eu cynnal. Mae ein swyddogion hefyd yn gweithio ochr yn ochr â Cyfoeth Naturiol Cymru i fynd i’r afael â’r mater hwn”