Newyddion S4C

Yr Arglwydd Sugar: 'Dylai pobl gael eu talu llai am weithio o adref'

The Independent 31/08/2022
Lord Sugar / Twitter

Mae'r Arglwydd Sugar wedi derbyn beirniadaeth yn sgil ei sylwadau y dylai pobl gael eu 'talu llai' am weithio o adref. 

Fe wnaeth seren cyfres deledu The Apprentice ymateb i ddarn ar  raglen Good Morning Britain ddydd Mercher a oedd yn trafod sut y bydd yr argyfwng costau byw yn effeithio ar bobl sydd ddim yn gweithio mewn swyddfeydd bellach ers y pandemig. 

Dywedodd ar y cyfryngau cymdeithasol y dylai "pobl gael eu talu llai gan eu bod nhw'n arbed costau teithio."

Daw hyn wedi i Ofgem gyhoeddi yr wythnos diwethaf y bydd y cap ar filiau ynni yn codi i £3,549 y flwyddyn ym mis Hydref. 

Darllenwch fwy yma

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.