Hanner plant Cymru 'ddim yn gwneud digon o ymarfer corff' medd adroddiad

Hanner plant Cymru 'ddim yn gwneud digon o ymarfer corff' medd adroddiad
Mae adroddiad newydd wedi datgelu mai dim ond hanner plant Cymru rhwng tair ac 17 oed sydd yn gwneud digon o ymarfer corff bob wythnos.
Mae Cerdyn Adroddiad Cymru ar gyfer Plant Gweithgar ac Iach wedi rhoi gradd 'F' i Gymru am weithgarwch corfforol plant a phobl ifanc.
Yr argymhelliad yw y dylai plant a phobl ifanc wneud o leiaf 60 munud o ymarfer corff pob dydd.
Yn ôl yr adroddiad, dim ond hanner y bobl ifanc rhwng tair ac 17 oed sydd yn bodloni'r argymhelliad.
Mae'r nifer hyd yn oed yn is ar gyfer pobl ifanc rhwng 11 ac 16 oed, gyda dim ond rhwng 13% a 17% o blant ymysg yr oedran yma yn gwneud digon o ymarfer corff.
Darllenwch fwy yma.