Wcráin: Tabledi ïodin i drigolion ger gorsaf niwclear

Mae trigolion ger gorsaf niwclear Zaporizhzhia yn Wcráin wedi derbyn tabledi ïodin rhag ofn bod gollyngiad ymbelydrol.
Daw hyn ddeuddydd ar ôl i’r orsaf fethu cynhyrchu pŵer oherwydd difrod gan dân.
Roedd arlywydd Wcráin Volodymyr Zelensky wedi rhybuddio ddydd Iau fod Rwsia wedi “gosod Wcráin ac Ewrop un cam i ffwrdd o ddinistr niwclear.”
Mae’r tabledi ïodin yn helpu rhwystro amsugno ymbelydredd ïodin mewn damwain niwclear.
Mae lluoedd Rwsia wedi cipio’r orsaf ers mis Mawrth ond mae’n cael ei rhedeg gan swyddogion Wcráin.
Darllenwch fwy yma.