Cap costau ynni yn codi i £3,549 y flwyddyn o fis Hydref
Mae Ofgem wedi cyhoeddi bydd y cap ar filiau ynni yn codi i £3,549 y flwyddyn.
Mae hyn yn gynnydd o 80% ers mis Ebrill pan oedd biliau ar gyfartaledd wedi codi i £1,971 y flwyddyn.
Mae disgwyl i 24 miliwn o dai ar hyd Prydain gael eu heffeithio wrth i'r codiad ddod i rym ar 1 Hydref.
Mae Prif Weithredwr Ofgem, Jonathan Brearley, yn galw ar y Prif Weinidog nesaf, yntau Sunak neu Truss i ymateb i'r codiad costau ar frys.
Mewn neges ar Twitter, fe alwodd Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i rewi pris ynni, a threthi’r busnesau olew a nwy.
Mae’r cap pris ynni wedi cynyddu eto – mae angen cyllideb brys nawr, a rhaid rhewi pris egni, a threthi’r busnesau olew a nwy.
— Mark Drakeford (@PrifWeinidog) August 26, 2022
Ni'n gwneud popeth o fewn ein gallu i gefnogi pobl Cymru, ond mae methiant Llywodraeth y DU i ymateb i'r argyfwng am greu mwy o galedi i deuluoedd.
Dywedodd y Canghellor Nadhim Zahawi: "Dwi'n gwybod bod y cyhoeddiad ar gap prisiau ynni bore 'ma yn achosi straen a phryder i nifer o bobl, ond mae cymorth ar y ffordd gyda £400 i helpu gyda biliau ynni i bawb, bydd ail daliad o £650 i aelwydydd bregus a £300 i bensiynwyr.
"Tra bo Putin yn gwneud i brisiau ynni i godi fel ffordd o ddial ar ein cefnogaeth i Wcráin yn eu dioddefaint am ryddid, dwi yn gweithio'n ddiflino i ddatblygu opsiynau am gymorth pellach.
"Mae hyn yn golygu bydd y Prif Weinidog nesaf yn gallu dechrau yn y ffordd orau posib a darparu cefnogaeth i'r rheiny sydd ei angen fwyaf, cyn gynted â phosib."