Pryder am ddyfodol safle Ambiwlans Awyr Cymru yng Nghaernarfon  

Newyddion S4C 25/08/2022

Pryder am ddyfodol safle Ambiwlans Awyr Cymru yng Nghaernarfon  

Mae pryderon ynglŷn â dyfodol safle Ambiwlans Awyr Cymru yng Nghaernarfon a bod yna gynllun i symud y gwasanaeth i Rhuddlan.

Daw hyn wedi iddi ddod i’r amlwg wythnos diwethaf byddai’r safle yn Y Trallwng yn cau, a’r ddarpariaeth yn cael ei chanoli yn y Gogledd a’r De. 

Yn ôl yr elusen, does dim penderfyniad eto - ac maen nhw'n ystyried sawl lleoliad.

Dywedodd Aelod Seneddol Dwyfor Meirionydd, Liz Saville Roberts, wrth Newyddion S4C ei bod hi’n “pryderu” am y sefyllfa.

“’Da ni di clywed y newyddion bod yr elusen yn bwriadu cau eu gorsaf nhw yn y Trallwng a hefyd ei gorsaf nhw yng Nghaernarfon a symud y gwasanaeth i Rhuddlan.

“Ma’r ddwy orsaf bresennol yn bwysig iawn i bobl Meirionydd a Dwyfor.

“Mae ‘na agwedd o hyn rydw i’n croesawu, mae ‘na sôn fod hi’n bosib gwasanaethu dau hofrennydd hyd at ddau y bore o Rhuddlan, ond dwi yn bryderus am y data mae’r gwasanaeth awyr yn ei gynnig dros symud y safleoedd.”

‘Clywed yr hofrennydd’

Ar y 9fed o Ebrill 2014, wrth dorri coed ar y fferm, fe gwympodd coeden ar Rhys Lewis gan dorri ei gefn. Ers hynny, mae wedi ei barlysu o’i ganol i lawr.

Image
S4C

“Dwi'n cofio gweiddi ar dad. Fo'n rhedeg draw ata i, ac o'n i'n gwybod yn syth bod rywbeth mawr yn bod.

“Na'r darn anoddaf dwi'n credu, odd dad yn gorfod gadael fi'n lle o'n i, i allu mynd fyny i'r tŷ ffarm i allu ffonio am ambiwlans ar y pryd.

Dwi'n siŵr o fewn deuddeg i bymtheg munud odda ni'n clywed yr hofrennydd ar i ffordd.

“Mae clywed yr help yna'n cyrraedd yn help ofnadwy. 

“Mae’r ffaith bo nhw’n meddwl cau'r orsaf yn hollol boncyrs. Mae o’r gwahaniaeth rhwng byw a marw, i lot o bobl.

“Mae o’n mynd i fod yn golled enfawr i’r ardal. De ni mewn ardal wledig dros ben lle does dim llawer iawn o gymorth meddygol fel mae hi. 

“Bu’n rhaid i ffrind i mi aros 9 awr am ambiwlans ffordd y llynedd. Petai hynny wedi digwydd yn fy achos i, byddai pethau wedi bod lot, lot anoddach."

Mae’r Gwasanaeth Ambiwlans yng Nghymru’n dweud y gallai’r newid olygu 583 yn fwy o hediadau ar draws Cymru dros y flwyddyn, 26 o’r rheiny ym Mhowys. 

Ar hyn o bryd mae’r ambiwlans awyr yn cwrdd â 72% o’r galw am y gwasanaeth gyda hynny yn cynyddu i 88% petai’r safle’n symud i’r gogledd. Doedd y Gwasanaeth Ambiwlans Awyr yng Nghymru methu cadarnhau ym mhle yn y Gogledd y byddai’r lleoliad newydd gan ddweud bod “trafodaethau yn parhau”.

Mae dros 9,000 o bobl wedi llofnodi deiseb yn gwrthwynebu’r newid a bydd cyfarfod cyhoeddus yn cael ei gynnal yn y Drenewydd fis nesaf. 

Mae’r gymdeithas amaethyddol hefyd wedi datgan eu pryder, gydag Undeb Amaethwyr Cymru yn cael “eu llorio” gan y penderfyniad. 

Fe ddywedodd Emyr Wyn Davies, o gangen Maldwyn o Undeb Amaethwyr Cymru, bod y penderfyniad yn “sioc aruthrol”.

Meddai: “Mae wedi dod yn sioc aruthrol i ni yn y gymuned ac yn y sir oherwydd mewn ffordd faint rydym ni yn dibynnu ar y gwasanaeth sydd efo nhw yn y canolbarth. 

“Mae'n rhaid iddyn nhw ailystyried. O nabod pobol sydd wedi defnyddio’r gwasanaeth ac sydd wedi cael eu heffeithio, mae'n rhaid iddyn nhw sylweddoli pa mor bwysig a hanfodol ydy hynny i’r gymuned, i’r sir, ac i bobl Sir Drefaldwyn. Mae 'na hefyd bobl yn ehangach, y tu allan i Sir Drefaldwyn sy’n mynd i gael eu heffeithio.”

Mewn datganiad, mae’r gwasanaeth ambiwlans yng Nghymru’n dweud bod y gwaith dadansoddi’n awgrymu’r ffyrdd “mwyaf effeithlon o ddefnyddio adnoddau presennol y gwasanaeth”. 

Mae’n golygu bod dau hofrennydd ar gael am oriau estynedig gyda’r ddarpariaeth yn cynyddu o 12 awr i 18 awr. 

“Mae Elusen Ambiwlans Awyr Cymru wedi derbyn gwybodaeth fel rhan o ddadansoddiad manwl o’r radd flaenaf sy’n datgelu y gallai fynychu dros 500 yn fwy o deithiau achub bywyd ledled Cymru bob blwyddyn.

“Mae’r dadansoddiad yn un o’r rhai mwyaf cynhwysfawr a gynhelir gan unrhyw ambiwlans awyr yn y Byd ac mae’r canlyniadau’n dangos, gydag ad-drefnu lleoliadau a phatrymau sifft feddygol, y gellid cyflawni’r canlynol:

· Gallai Ambiwlans Awyr Cymru fynychu hyd at 583 o deithiau ychwanegol bob blwyddyn.

· Bydd pob sir yng Nghymru yn gweld cynnydd yn nifer y teithiau a fynychir gan Ambiwlans Awyr Cymru.

· Gallai Ambiwlans Awyr Cymru fynychu hyd at 26 yn fwy o deithiau ym Mhowys bob blwyddyn.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.