Canlyniadau TGAU: Llai yn sicrhau'r graddau uchaf ond cynnydd ers 2019

25/08/2022
ysgol Tryfan TGAU

Mae canlyniadau TGAU Cymru yn is i gymharu â rhai'r llynedd, ond yn well na’r rhai a gafodd eu cofnodi yn 2019.

Eleni oedd y tro cyntaf ers dwy flynedd i arholiadau TGAU ffurfiol gael eu cynnal oherwydd Covid-19.

Yn yr un modd â chanlyniadau Safon Uwch a gafodd eu cyhoeddi wythnos diwethaf, nid oedd y canlyniadau cystal eleni i gymharu gyda rhai 2021, a gafodd eu penderfynu gan athrawon.

Er hyn, mae cynnydd sylweddol wedi bod ers 2019, y tro diwethaf i ddisgyblion TGAU sefyll arholiadau.

Fe gafodd 68.6% o ddisgyblion gradd C neu’n uwch yn eu harholiadau eleni – 5 pwynt canran yn is na'r llynedd ond 5.8 pwynt canran yn uwch na 2019.

Ar gyfer graddau A* ac A, fe lwyddodd 25.1% o ddisgyblion i gael y graddau uchaf eleni, i gymharu â 28.7% y llynedd a 18.4% yn 2019.

Cafodd 311,072 o ganlyniadau eu cofrestru eleni, sydd ychydig yn is i gymharu â llynedd.

'Llongyfarchiadau'

Mae’r Gweinidog dros Addysg a’r Gymraeg, Jeremy Miles wedi llongyfarch disgyblion yn dilyn y canlyniadau, gan eu canmol am eu gwaith caled yn ystod heriau'r ddwy flynedd diwethaf.

“Llongyfarchiadau i bawb oedd yn derbyn eu canlyniadau heddiw," meddai.

"Dylech chi i gyd fod yn falch o’r gwaith caled wnaethoch chi drwy’r holl darfu a fu dros y ddwy flynedd ddiwethaf.

“Rwy’n croesawu’r canlyniadau hyn wrth i ni symud yn ôl at arholiadau eleni – mae’n wych gweld beth mae ein dysgwyr wedi ei gyflawni.”

Mae'r Ceidwadwyr Cymreig wedi beirniadu'r blaid Lafur am y gostyngiad yn y graddau, gan ddweud y bydd llai o ddisgyblion Cymru yn gallu mynd ymlaen i astudio mewn chweched dosbarth.

Dywedodd y Gweinidog Addysg Cysgodol, Laura Anne Jones AS: "Mae'n siom ofnadwy fod Cymru unwaith eto y tu ôl i weddill y DU ar gyfer y graddau uchaf ac yn fwy pryderus fyth fod y gyfradd basio yn sylweddol is nag unrhyw le arall."

Image
Ysgol Bro Gwaun.jpg
Disgyblion yn Ysgol Bro Gwaun yn Sir Benfro yn dathlu ar ôl derbyn eu canlyniadau TGAU.

'Dyfalbarhad'

Dywedodd Paul Edwards, Pennaeth Ysgol Bro Gwaun wrth Newyddion S4C ei fod yn falch o "waith caled" disgyblion yn enwedig o ystyried "yr anawsterau dros y ddwy flynedd ddiwethaf".

"Hoffwn dalu teyrnged i’r dyfalbarhad y mae ein disgyblion wedi’i ddangos a hoffwn ddiolch hefyd i staff yr ysgol sydd wedi gweithio’n ddiflino i gefnogi pob dysgwr i gyflawni ei orau," meddai.

"Ni allai neb ddychmygu’r heriau rydym wedi’u hwynebu am lawer o’n hamser yn yr ysgol, ac mae cyflawni’r hyn rydym wedi’i gyflawni er gwaethaf yr anawsterau hyn yn anhygoel ac yn deyrnged i’r athrawon a’r staff cymorth yn yr ysgol."

Llun: Ysgol Tryfan/Twitter

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.