Newyddion S4C

Fideo cylch cyfyng yn recordio sŵn gwn yn ystod llofruddiaeth Olivia Pratt-Korbel

Sky News 25/08/2022
Olivia Pratt-Korbel

Mae camera cylch cyfyng wedi recordio sŵn gwn yn tanio yn ystod llofruddiaeth Olivia Pratt-Korbel. 

Yn y deunydd fideo, sydd wedi'i gasglu gan Sky News, mae modd clywed pedwar taniad yn ystod y digwyddiad yn Lerpwl nos Lun. 

Bu farw Olivia ar ôl cael ei saethu yn ei brest. 

Fe wnaeth dyn 35 oed, a oedd yn ffoi rhag y saethwr, wthio ei hun i mewn i'w thŷ ac mae bellach wedi ei arestio. 

Mae Heddlu Glannau Mersi yn parhau i chwilio am y dyn a oedd yn gyfrifol am lofruddio Olivia. 

Darllenwch fwy yma

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.