Disgyblion Cymru yn disgwyl clywed eu canlyniadau TGAU

25/08/2022
S4C

Bydd miloedd o ddisgyblion ar draws y wlad yn derbyn eu canlyniadau TGAU ddydd Iau.

Eleni oedd y tro cyntaf ers dwy flynedd i arholiadau TGAU ffurfiol gael eu cynnal oherwydd Covid-19.

Llynedd gwelwyd y canlyniadau uchaf erioed yng Nghymru gyda 28.7% yn derbyn gradd A* neu A a phasiodd 98% gyda graddau rhwng A*- G.

Wythnos diwethaf cafodd canlyniadau Safon Uwch eu cyhoeddi, lle'r oedd gostyngiad wedi bod yn y graddau uchaf ar gyfer cymwysterau Safon Uwch, ond maen nhw'n parhau'n uwch na 2019.

Mae Mark Drakeford, Prif Weinidog Cymru wedi dymuno yn dda i bob disgybl sy'n derbyn eu canlyniadau TGAU ddydd Iau. 

"Rydych i gyd wedi gweithio mor galed ag rwy'n gobeithio y cewch chi'r canlyniadau roeddech chi eisiau," meddai.

Ychwanegodd yr Ysgrifennydd Addysg a'r Gymraeg, Jeremy Miles y dylai pawb sy'n derbyn eu canlyniadau "fod yn falch o'u gwaith caled".

Fe fydd y dudalen hon yn cael ei diweddaru wrth i'r canlyniadau gael eu rhyddhau ddydd Iau. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.