Dyn yn y llys ar gyhuddiad o dreisio merch yn Ynys Môn

23/08/2022
Llys Caernarfon

Mae dyn wedi ymddangos o flaen llys, wedi ei gyhuddo o dreisio, ymgais o dreisio, ac o ymosodiadau rhyw yn erbyn merch ifanc yn Ynys Môn.

Fe ymddangosodd Lee James Howland, 34 oed o Fethesda yng Ngwynedd o flaen Llys Ynadon Caernarfon fore Mawrth.

Mae ditectifs o heddlu'r gogledd wedi bod yn ymchwilio i'r digwyddiad honedig yn erbyn y ferch dan 16 oed ar draeth Penial, ger Llanfachraeth, Ynys Môn ar Awst 18.

Mewn datganiad, fe ddywedodd DCI Chris Bell eu bod yn parhau i gefnogi'r dioddefwr yn yr achos, a'u bod yn diolch i'r cyhoedd am eu hymateb i apêl yr heddlu am fwy o wybodaeth.

Fe fydd Mr Howland yn ymddangos o flaen Llys y Goron ar Medi 12.

 

 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.