Dan Biggar yn ymuno â thaith gerdded er cof am ei fam
10/08/2022
Mae Dan Biggar yn ymuno â thaith gerdded er cof am ei fam fu farw o ganser y coluddyn.
Bydd Biggar yn ymuno â'i chwaer Rachel a'i gŵr Paul, wrth iddynt gerdded Penrhyn Gŵyr er cof am eu mam, Liz Biggar.
Ar 10 Medi, a fyddai wedi bod yn ben-blwydd Liz yn 68 oed, bydd y tri yn ymuno ar daith Bowel Cancer UK sydd wedi cael ei drefnu gan Sacha Stoyle, sydd yn byw â'r cyflwr.
Fe gafodd llwch Liz eu gwasgaru ar ben Ynys Weryn.
Hyd yma, mae Biggar, ei chwaer, a'i frawd-yng-nghyfraith wedi codi dros £1,200 i Bowel Cancer UK.