Dros 400 mewn cyfarfod i drafod dyfodol uned strôc Bronglais
Roedd dros 400 o bobol mewn cyfarfod yn Aberystwyth nos Wener i drafod newidiadau posib i wasanaethau Ysbyty Bronglais.
Mae Bwrdd Iechyd Hywel Dda yn ymgynghori ar opsiynau gan gynnwys cau yr uned strôc yno, gyda chleifion yn cael gofal arbenigol yn Llanelli neu Hwlffordd yn lle.
Ond maen nhw’n dweud nad oes unrhyw benderfyniadau wedi eu gwneud ac nad ydyn nhw’n ffafrio unrhyw opsiynau penodol ar hyn o bryd.
Roedd y cyfarfod yng Nghanolfan y Celfeddydau Prifysgol Aberystwyth yn gyfle meddai’r trefenwyr i drafod yr ymgynghoriad cyhoeddus i gynigion Hywel Dda i wneud newidiadau i naw gwasanaeth clinigol, sy’n cynnwys newidiadau i wasanaethau stroc.
Roedd yr Athro Phil Kloer, prif weithredwr Bwrdd Iechyd Hywel Dda a Dr. Neil Wooding, sy'n cadeirio'r bwrdd, yno i ateb eu cwestiynau.
Daw wedi i ymgyrchwyr sefydlu deiseb er mwyn atal “gorfodi cleifion o Geredigion, Powys, a De Meirionnydd i wynebu trosglwyddiadau peryglus a phell i ysbytai yn Llanelli neu Hwlffordd.”
Mae dros 4,000 o bobl wedi ei harwyddo hyd yma.
Dywedodd y Cynghorydd Gareth Lewis sy’n cynrychioli ward Tirymynach i’r gogledd o Aberystwyth bod yna “gymaint o gwestiynau heb eu hateb” am y newid.
“Mae angen i ni sefyll yn unedig i amddiffyn y gwasanaeth dosbarth cyntaf gwerthfawr, hanfodol hwn sydd gennym,” meddai.
“Yn lle gadael iddyn nhw ennill a gadael i ni drigolion Ceredigion gael gwasanaeth 2il ddosbarth neu hyd yn oed 3ydd.”
Dywedodd y Cynghorydd Elwyn Vaughan sy’n cynrychioli ward ar Gyngor Sir Powys bod angen buddsoddiad “mewn gwasanaethau sy’n gwasanaethu canolbarth Cymru i gyd”.
“Gyda’r ardal yn colli ei ambiwlans awyr mae angen gwasanaethau lleol nid popeth wedi ei gymryd i ffwrdd,” meddai.
“Mae bywydau gwledig yn bwysig hefyd.”
Yng nghyfarfod mis Mai o'r bwrdd iechyd, dywedodd y Cyfarwyddwr Meddygol Mr Mark Henwood nad oedd “unrhyw benderfyniadau wedi'u gwneud ar yr opsiynau a gyflwynwyd, ac nid oes unrhyw atebion yn cael eu ffafrio ar hyn o bryd”.
“Y newidiadau yr ydym yn bwriadu eu gwneud yw sicrhau bod gennym wasanaethau diogel o ansawdd uchel a gofal iechyd fforddiadwy yn y dyfodol, a bod buddiannau gorau pobl gorllewin Cymru a'u profiad fel cleifion wrth wraidd eu gwaith,” meddai.