Newyddion S4C

'Angen gwell cefnogaeth ariannol' ar rieni plant sydd angen gofal ysbyty am amser hir

Lizzie a Lewis Denton

Mae mam bachgen chwech oed o Geredigion a gafodd ddiagnosis o gyflwr niwrolegol wedi galw am well cefnogaeth ariannol i rieni plant sydd angen gofal ysbyty am gyfnod hir.

Roedd yn rhaid i Lizzie Danton, 34, symud 100 milltir i ffwrdd o'i chartref yn Cross Inn i fod gyda'i mab Lewis yn Ysbyty Arch Noa yng Nghaerdydd.

Cafodd Lewis ddiagnosis o Syndrom Guillain-Barré ym mis Hydref y llynedd, cyflwr lle mae system imiwnedd y corff yn ymosod ar y nerfau.

O ganlyniad doedd Lewis ddim yn gallu cerdded, felly roedd yn rhaid iddo aros yn yr ysbyty am chwe mis i gael triniaethau i arafu'r cyflwr.

Yn ôl Ms Danton, sydd hefyd yn fam i ferch fach, mae angen gwell cefnogaeth ariannol i rieni plant sydd angen gofal ysbyty am gyfnod hir.

"Fi’n meddwl dyle bod wbath i rhieni sydd gyda plant yn ysbyty sydd yn mynd i fod yna am sbel i gael rhyw fath o emergency financial help," meddai. 

"Achos os oedd e ddim am teulu fi sai’n gwbo ble bydde ni nawr."

'Popeth wedi newid'

Wythnosau'n unig cyn iddo gael y diagnosis, dywedodd Ms Danton bod Lewis wedi bod yn chwarae pêl-droed gyda'i ffrindiau.

"Chi jyst ddim yn meddwl bod bachgen bach chwech oed yn gallu mynd o chwarae pêl-droed i beidio gallu cerdded o fewn tri wythnos," meddai.

"Sai’n credu bo' fi wedi processio fo i gyd yn iawn eto, ond mae wedi bod yn amser life changing i ni fel telulu mae popeth wedi newid."

A hithau wedi gorfod rhoi'r gorau i'w gwaith fel triniwr gwallt am y tro, dywedodd Ms Danton ei bod wedi gwneud cais am Lwfans Byw i'r Anabl.

"Ni 'di trio claimio am Disability Living Allowance i Lewis, so ni 'di llenwi ffurflen 'ma yn mis Chwefror a fi dal heb glywed dim byd," meddai.

"Yn yr amser yna chi jyst yn meddwl, be' mae pobl fod i neud?"

Dywedodd Llywodraeth y DU eu bod yn cefnogi "miloedd" o bobl bob blwyddyn, gan gynnwys drwy'r Lwfans Byw i'r Anabl.

Ond maen nhw'n cydnabod bod "amseroedd aros yn rhy hir" ac eu bod wedi "cynyddu nifer y staff i ymateb i’r cynnydd yn nifer y ceisiadau".

Image
Lewis
Roedd Lewis wedi bod yn cwyno am boenau yn ei goesau

Ychwanegodd Ms Danton ei bod hefyd wedi gwneud cais am gredyd cynhwysol.

"Gafo ni Universal Credit am ddau fis, ond wedyn oeddan nhw wedi stopio fo achos o'n i methu rhoi evidence bo' fi’n ysbyty   loophole ridiculous," meddai.

Doedd dim modd i ŵr Ms Danton, Alex, 36, ymuno â hi yn yr ysbyty yn ystod yr wythnos chwaith oherwydd bod yn rhaid iddo barhau i weithio.

Image
Libby a Lewis
Byddai Libby, wyth oed, yn teithio i Gaerdydd i weld ei brawd bach ar benwythnosau

Daw'r alwad gan y teulu wrth i'r elusen It's Never You ymgyrchu i gyflwyno deddf a fyddai'n rhoi cymorth ariannol i rieni mewn sefyllfaoedd tebyg.

Cafodd yr elusen ei sefydlu gan Ceri a Frances Menai-Davis o Sir Hertford ar ôl iddyn nhw golli eu mab Hugh i ganser yn 2021.

Maen nhw'n galw ar y Senedd yn San Steffan i gyflwyno grant a fyddai'n rhoi cefnogaeth ariannol i rieni yn y tri mis cyntaf yn dilyn diagnosis.

Nod yr elusen ydi cefnogi rhieni yn y cyfnod nes eu bod nhw'n gymwys i wneud cais am Lwfans Byw i'r Anabl.

Image
Teulu Lewis
Lewis gyda'i deulu a chriw Ambiwlans Awyr Cymru

Er ei bod yn galw am well cefnogaeth ariannol, mae Ms Danton yn diolch i'r elusennau sydd wedi cefnogi ei theulu.

Roedden nhw'n cynnwys Ronald McDonald House Charities, a roddodd loches iddi, ac Elusen Ysbyty Plant Arch Noa.

Mae Elusen Ysbyty Plant Arch Noa yn ariannu offer meddygol a gwasanaethau cymorth, gan gynnwys arbenigwyr cymorth emosiynol a chwarae.

Dywedodd Ms Danton bod cael cefnogaeth arbenigwyr o'r fath yn yr ysbyty wedi "neud i betha weld yn lot fwy gwell".

"Odd y play therapists yn helpu fi achos oedda nhw’n dod i eistedd a chwarae gyda Lewis," meddai. 

"Odde nhw'n rhoi chance i fi mynd mas a nôl bwyd, mynd i cael cawod achos o'n i methu gadael e yn yr wythnos achos o'n i yna ben fy hunan gyda fe."

Ychwanegodd: "Odd shwt gyment o bethe yn fundraised, geshi sioc achos o'n i’n meddwl bod o gyd dan yr NHS."

Ymgyrch seiclo

Erbyn hyn mae'r teulu yn codi arian ar gyfer Elusen Ysbyty Plant Arch Noa drwy ymgyrch JustGiving.

Mae ewythr Lewis, Siôn Evans yn berchen ar gampfa SE Fitness yn Aberaeron ac fe benderfynodd gynnal her i seiclo 100 milltir y dydd bob dydd ym mis Mehefin, sef y pellter oedd yn rhaid i'r teulu deithio i'r ysbyty yng Nghaerdydd.

"Ma' fe jyst yn neis i bwrw ati i neud her sy' mor agos i'r teulu," meddai Mr Evans.

"A rhwbeth i ni wedi weld trwy Lewis lawr yn yr ysbyty ydi'r effaith mae lle fel Arch Noa yn cael, yn enwedig ar deuluoedd plant ifanc.

"Roedd e'n dorcalonnus i weld rhai o'r plant bach sydd 'na."

Image
Sion Evans
Mae aelodau SE Fitness wedi bod yn cymryd rhan yn yr ymgyrch seiclo

Ychwanegodd Mr Evans ei fod yn bwysig i gael gwasanaeth arbenigol o'r fath yng Nghymru.

"Ble i ni'n byw yn gorllewin Cymru, mae'n eitha gwledig, does na'm lot fawr o gymorth yn arbennig i blant fel Ysbyty Arch Noa," meddai. 

"Felly roedd e'n teimlo fel achos pwysig a hefyd yn agos iawn i'n teulu i ni bod rhywbeth ar gael yng Nhgymru sy' ddim jyst yn Ysbyty Caerffili ond sy'n arbenigwyr plant, a neud yn siŵr bod dim jyst y plant ond eu teulu yn cael eu cefnogi."

Mae'r ymgyrch eisoes wedi codi dros £700, ond y bwriad ydi codi dros £1,000.

Image
Lewis yn Ysbyty Arch Noa
Yn dilyn chwe mis yn yr ysbyty, mae Lewis yn gwella ac yn cryfhau

Mae Lewis bellach nôl adref, ond mae'n parhau i gael triniaeth steroids ac yn mynd i Gaerdydd bob 10 diwrnod.

"Fi’n gorfod codi fe lan a symud o gwmpas fy hunan, felly fi dal methu mynd nôl i gwaith," meddai Ms Danton.

"Mae hwnna’n rili frustrating achos ma 'da fi busnes fy hunan a fi 'di gweithio mor galed i gael fe lan i lle ma fe. 

"Fi’n gwbo taw iechyd sydd yn mwy important, ond ma fe jyst yn frustrating pan 'da chi 'di bod yn gweithio mor galed."

Er gwaethaf heriau'r chwe mis diwethaf, dywedodd Ms Danton bod Lewis yn dal i wenu.

"Ma' spirits fe yn eitha uchel a fi'n credu ma' hwnna wedi cario fi  trwydde fe," meddai.

"Ma' fe yn cheeky chappy a ma' fe wastad wedi bod mae hwnna heb newid."

'Amseroedd yn rhy hir'

Dywedodd llefarydd ar ran Adran Gwaith a Phensiynau Llywodraeth y DU: "Rydym yn cefnogi miliynau o bobl bob blwyddyn, ac wedi ymrwymo i sicrhau y gall pobl gael mynediad at gymorth ariannol – gan gynnwys drwy Lwfans Byw i’r Anabl ar gyfer plentyn – mewn modd amserol.

"Ond rydym yn cydnabod bod yr amseroedd aros yn rhy hir, ac rydym wedi cynyddu nifer y staff i ymateb i’r cynnydd yn nifer y ceisiadau."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Byddem yn annog pobl i gysylltu ag Advicelink Cymru a allai rhoi cyngor a hefyd cyfeirio at asiantaethau eraill a all roi cymorth."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.