Newyddion S4C

Tri thad a gollodd eu merched i hunanladdiad yn cwblhau taith o amgylch Môn

3 dad's walking

Rhybudd: Mae'r erthygl hon yn cynnwys trafodaeth am hunanladdiad.

Mae tri thad a gollodd eu merched i hunanladdiad wedi cwblhau eu taith o gwmpas arfordir Ynys Môn. 

Wrth groesi y llinell derfyn toc cyn 10.00 fore Sadwrn dywedodd un o'r tri, Andy Airey, fod y "gefnogaeth wedi bod yn wych" bob cam o'r ffordd o amgylch yr ynys.

Fe ddechreuodd Andy, Mike Palmer a Tim Owen, sy'n cael eu hadnabod fel y '3 Dads Walking’ ar yr her o gerdded arfordir Môn, ym Mae Cemaes ddydd Sadwrn diwethaf.

"Rydym ni'n dri o dadau sydd wedi profi profedigaeth o ganlyniad i hunanladdiad. Yn drist iawn, rydym ni gyd wedi colli merch," meddai Mike Palmer wrth Newyddion S4C cyn dechrau'r her.

Fe gollodd Mike ei ferch, Beth, yn 2020 o ganlyniad i hunanladdiad. 

Bu farw merch Andy, Sophie, i hunanladdiad yn 2018, ac fe gollodd Tim ei ferch, Emily, yn 2020. 

Dywedodd Mike: "Rydym ni'n ymgyrchu i atal hunanladdiad ymysg pobl ifanc, ac fel rhan o hyn, rydym ni'n codi arian ac ymwybyddiaeth i gefnogi elusen o'r enw PAPYRUS sy'n ceisio atal hunanladdiad ymysg pobl ifanc."

Image
Bu farw merch Mike, Beth, yn 2020.
Bu farw merch Mike, Beth, yn 2020. 

Yn ôl elusen PAPYRUS, hunanladdiad yw prif achos marwolaeth ymysg pobl o dan 35 oed yn y DU. 

Yn ôl y ffigyrau diweddaraf, bu farw 1,840 o bobl ifanc o dan 35 oed yn y DU o ganlyniad i hunanladdiad yn 2023. 

Ar y diwrnod cyntaf, fe wnaeth y tri gerdded o Fae Cemaes i Dulas, cyn mynd o'r fan yna i Benmon ar yr ail ddiwrnod. 

Fe gerddodd y tri o Benmon i Sŵ Môr Môn ar y trydydd diwrnod, cyn cerdded i Aberffraw ar ddiwrnod pedwar. 

Ar ddiwrnod pump, fe aeth y tri ymlaen i ardal Carnau ar yr ynys, cyn mynd i Barc Gwledig Morglawdd Caergybi ar ddiwrnod chwech. 

Image
Mae'r tri thad wedi codi dros £1m i godi ymwybyddiaeth o ddulliau i atal hunanladdiad.
Bu farw merch Andy, Sophie, i hunanladdiad yn 2018.

Gan deithio i Borth Swtan ar ddiwrnod saith, roedd y tri yn gorffen eu taith ddydd Sadwrn wrth ddychwelyd i Fae Cemaes. 

Fe ddechreuodd y tri wneud teithiau cerdded yn 2021 i godi arian ac ymwybyddiaeth. 

"Roedd yn brofiad arbennig, ac fe wnaethon ni ddysgu sawl peth. Fe wnaethon ni ddysgu nad oedden ni'n arfogi pobl ifanc i ddelio â meddyliau yn ymwneud â hunanladdiad," meddai Mike. 

"Os mai hunanladdiad ydy'r prif achos o farwolaeth ymysg pobl o dan 35 oed, a bod pethau ddim yn newid, pam nad ydym ni'n eu harfogi gyda'r sgiliau bywyd sydd eu hangen arnyn nhw i fod yn ddiogel?

"Ar ôl i ni orffen y daith gyntaf, gofynwyd y cwestiwn i ni 'Ydych chi wedi gorffen cerdded?'. Yr ateb oedd 'Na.' 

"Tan fod yna newid yn digwydd, rydym ni am barhau i gerdded."

Image
Fe fydd y tri yn dechrau ar yr her ddydd Sadwrn, ac yn gorffen ar y Sadwrn canlynol.
Fe gollodd Tim ei ferch, Emily, yn 2020. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.