Newyddion S4C

Galw am gryfhau rhwydwaith ffyrdd ‘bregus’ gogledd Cymru ar ôl tân twnnel Conwy

Y lori craen

Mae gwleidyddion wedi galw am gryfhau rhwydwaith ffyrdd “bregus” gogledd Cymru ar ol i dân yn Nhwnnel Conwy achosi tagfeydd traffig hirfaith.

Roedd yr A55 rhwng C17 Morfa Conwy a C18 Cyffordd Llandudno yn parhau i lawr i un lôn i'r ddau gyfeiriad bnawn Sadwrn ar ol y tân ddydd Iau.

Bu’n rhaid i ran o’r A55 gau eto ddydd Gwener oherwydd gwrthdrawiad.

Fe arweiniodd y ddau ddigwydd at oedi mawr a thagfeydd traffig drwy gymunedau gwledig gan gynnwys Betws-y-Coed a Llanrwst.

Dywedodd Gareth Davies, yr aelod Ceidwadol o Senedd Cymru dros Ddyffryn Clwyd bod cau'r twnnel yn dangos pa mor “fregus” oedd rhwydwaith ffyrdd gogledd Cymru.

Dywedodd ei fod yn nodedig nad oedd dim gwelliannau o bwys wedi ei wneud ers i’r twnnel agor yn 1991.

“Mae'n ymddangos yn rhyfedd i mi ein bod ni wedi arloesi yr holl brosiectau hyn 30 mlynedd yn ôl,” meddai.

“Nawr rydyn ni wedi dod yn feistri ar wneud dim byd, yn bennaf yn fy marn i oherwydd hunanfodlonrwydd, segurdod a diffyg ewyllys gwleidyddol a strategol i gyflawni unrhyw beth.”

Dywedodd Janet Finch-Saunders, AS Ceidwadol Aberconwy, nad oedd oedi mawr ar yr A55 “yn beth prin” ond ei fod yn achosi “anhrefn”.

“Mae pob un ohonom sy’n byw yn yr ardal yn gwybod bod digwyddiadau mawr yn digwydd o bryd i’w gilydd,” meddai.

“Rydw i wedi clywed gan drigolion fod pob cymuned ar hyd y llwybr dargyfeirio, ar hyd yr A470 a’r A5, wedi eu tagu gan draffig.

“Mae’n rhaid gofyn cwestiynau mawr ynghylch pam nad oedd yr awdurdodau a Heddlu Gogledd Cymru wedi paratoi.

“Rwy’n hynod ddiolchgar i aelodau’r gymuned a wirfoddolodd i helpu i reoli’r traffig, fel yn Llanrwst.”

Dywedodd Ken Skates, Ysgrifennydd Trafnidiaeth Cymru, eu bod nhw wedi paratoi ar gyfer digwyddiad o'r fath.

"Cynhaliwyd ymarfer ychydig fisoedd yn ôl i edrych ar wytnwch cynlluniau Llywodraeth Cymru, NMWTRA, gwasanaeth tân ac achub Gogledd Orllewin Cymru a gwasanaethau brys eraill i ddelio â'r senario hwn ar yr A55 yn Nhwnnel Conwy," meddai.

"Mae hynny mae'n amlwg wedi talu ar ei ganfed gan i'r ymarfer gael ei roi ar waith ddoe i helpu i leihau difrod.  Mae'r cydweithio hwn gyda'n partneriaid yn parhau, gyda chyfarfodydd aml-asiantaeth yn cael eu cynnal wrth i ni ddelio â chanlyniadau'r digwyddiad."

Dywedodd Nigel Harrison, Dirprwy Brif Gwnstabl Heddlu Gogledd Cymru, bod tagfeydd yn anochel “o ystyried daearyddiaeth Gogledd Cymru”.

"Unwaith eto, rwy’n gwerthfawrogi amynedd y cyhoedd yn fawr, a does dim dwywaith y bydd yn  parhau gan fod angen gwneud atgyweiriadau pellach,” meddai.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.