Miloedd yn dathlu yng ngorymdaith Pride Cymru yng Nghaerdydd
Miloedd yn dathlu yng ngorymdaith Pride Cymru yng Nghaerdydd
Roedd miloedd o bobl wedi ymgynnull yng Nghaerdydd ddydd Sadwrn i ddathlu 40 mlynedd o orymdaith Pride Cymru yn y brifddinas.
Dywedodd Pride Cymru roedd disgwyl i 50,000 o bobl gymryd rhan yn y digwyddiad.
Fe ddechreuodd yr orymdaith am 11:00 o Stryd Porth y Gorllewin ac wedi teithio am ddwy filltir trwy’r strydoedd i orffen o flaen y castell.
Cafodd yr orymdaith ei hatal am tua 20 munud gan wrthdystiad o blaid Palesteina.
Roedd tua 50 o aelodau o grŵp o'r enw Cymru Queers for Palestine wedi rhwystro'r ffordd drwy orwedd ynghanol y ffordd.
'Cynhwysol'
Mae Pride Cymru yn hyrwyddo hawliau pobl LHDCT+.
Dywedodd Pride Cymru, yr elusen sydd yn gyfrifol am y digwyddiad ei fod yn "enghraifft bwerus o sut mae dathliad cynhwysol o fudd i'r ddinas gyfan".
Mae digwyddiadau eraill yn cael eu cynnal yn y castell dros gyfnod o ddeuddydd.
Mae'r artistiaid eleni'n cynnwys Bronwen Lewis, Ella Henderson, Kimberly Wyatt, Shola Ama, Una Healy a The Longest Johns.
Mae S4C ymhlith noddwyr Pride 2025.
Roedd nifer o ffyrdd yng nghanol y brifddinas wedi eu cau fore dydd Sadwrn ar gyfer y digwyddiad.
Llun: Pride Cymru