‘Ni ddylai’r BBC ddangos Kneecap yn Glastonbury’ meddai arweinydd y Ceidwadwyr
Mae arweinydd y Blaid Geidwadol, Kemi Badenoch, wedi dweud na ddylai’r BBC ddangos perfformiad Kneecap yng Ngŵyl Glastonbury yr wythnos nesaf.
Daw ei sylwadau ar ôl i un o aelodau Kneecap, Liam Óg Ó hAnnaidh, ymddangos yn y llys ddydd Mercher.
Mae wedi ei gyhuddo o ddangos baner oedd yn cefnogi’r sefydliad terfysgol gwaharddedig Hezbollah mewn gig ym mis Tachwedd y llynedd.
Fe gafodd ei ryddhau ar fechnïaeth ddiamod tan ei wrandawiad nesaf yn yr un llys ar Awst 20.
Dywedodd Ms Badenoch: “Ni ddylai’r BBC fod yn dangos propaganda Kneecap.
“Mae un aelod o’r band Kneecap ar fechnïaeth ar hyn o bryd, wedi’i gyhuddo o dan y Ddeddf Terfysgaeth.
“Ni ddylai’r BBC, llwyfan sy’n derbyn arian cyhoeddus, wobrwyo eithafiaeth.”
Yn dilyn ei wrandawiad yn y llys, dywedodd Liam Óg Ó hAnnaidh: “I unrhyw un sy’n mynd i Glastonbury, gallwch ein gweld ni yno am 4pm ar y dydd Sadwrn.
“Os na allwch chi fod yno byddwn ni ar y BBC, os yw unrhyw un yn gwylio’r BBC. Byddwn ni yn Wembley ym mis Medi.
“Ond yn bwysicaf oll: Palesteina rydd.”
Dywedodd llefarydd ar ran y BBC: “Bydd y BBC yn darlledu ystod eang o gerddoriaeth o Glastonbury, gan artistiaid sydd wedi’u bwcio gan drefnwyr yr ŵyl.
“Nid yw’r BBC yn gwahardd artistiaid, ond byddwn yn sicrhau y bydd ein rhaglenni’n bodloni ein canllawiau golygyddol.
“Fe fyddwn yn penderfynu ar ein hallbwn yn y cyfnod cyn yr ŵyl.”