
Carreg fedd o'r diwedd i un o arlunwyr ‘gorau Cymru’ ar ei phenblwydd
Fe fydd un o arlunwyr "gorau Cymru" yn cael carreg fedd o'r diwedd i nodi ei phen-blwydd yn 137.
Roedd Margaret Lindsay Williams yn arlunydd poblogaidd yn hanner cyntaf yr 20fed ganrif, ac wedi paentio rhai o enwogion mwyaf y byd.
Cafodd ei chladdu ym mynwent Merthyr Dyfan yn y Barri, ond does dim cofnod penodol o’i hunion fan gorffwys olaf.
Dywedodd Dr. Jonathan Hicks, yr hanesydd o'r dref a wnaeth arwain yr ymgyrch i greu’r garreg fedd, ei bod hi’n bryd i gydnabod yr arlunydd.
“Dwi’n credu nad yw e'n deg bod Margaret yn gorwedd mewn darn o dir sydd heb ei nodi ym mynwent y Barri,” meddai.
“Fydd e ddim yn ddiwrnod trist, fel ydyn ni'n gweld yn y rhan fwyaf o fynwentydd. Rydyn ni am ddathlu ei bywyd.
“Mae’n bwysig ein bod ni’n cydnabod y dalent oedd ganddi."

Ganwyd Margaret yng Nghaerdydd yn 1888 cyn symud i’r Barri yn fuan wedyn.
Hi oedd y fyfyrwraig ieuengaf yn yr Academi Frenhinol yn Llundain ar y pryd, a’r artist cyntaf o Gymru i ennill y fedal aur yno.
Un o’i darnau pwysig cyntaf oedd y ‘Gwasanaeth Cenedlaethol Cymru yn Abaty San Steffan’, sydd bellach yn cael ei harddangos yn Llys y Goron Caerdydd.
O’r 1920au ymlaen, fe wnaeth Margaret ganolbwyntio ar bortreadau, gan ddod yn un o’r artistiaid mwyaf poblogaidd i’r dosbarth uchaf o fewn cymdeithas.
Fe wnaeth hi arlunio’r Brenin Siôr V, y Frenhines Mari, ac ar bum achlysur gwahanol, y Frenhines Elizabeth II.
Fe gafodd hi hefyd ei chomisiynu i arlunio portreadau plentyndod o’r Brenin presennol, Charles III, a’i chwaer y Dywysoges Anne.
Ar y cyd â’i gwaith brenhinol, fe wnaeth hi arlunio wynebau enwog arall o’i chyfnod, gan gynnwys y Prif Weinidog David Lloyd George a’r cyfansoddwr Cymreig, Ivor Novello.
Fe aeth hi i’r Unol Daleithiau i arlunio’r teicŵn ceir Henry Ford a hyd yn oed yr Arlywydd Warren Harding, hefyd.
Mae sôn bod Margaret wedi adrodd stori bod yr Arlywydd wedi gofyn iddi a oedd hi erioed wedi bod mewn cariad, ac atebodd hi: “Oh, Mr. President, I am wedded to my art.”

Apêl
Doedd Margaret byth wedi priodi. Bu farw yn ei chartref yn St John’s Wood yn Llundain yn 1960.
Roedd annhegwch y diffyg cofeb iddi wedi sbarduno Dr. Jonathan Hicks i weithredu, meddai.
“Es i ffwrdd a myfyrio ar hyn am ychydig ac fe wnes i dreulio peth amser yn ymchwilio i’w bywyd, ac yna penderfynais i lansio apêl i godi arian," meddai.
Cododd yr apêl dros £2,000 er mwyn comisiynu carreg bedd gan CJ Ball Memorial Masons yn y Barri.
Fe fydd y garreg fedd yn cael ei ddatgelu mewn seremoni arbennig ar ddydd Sadwrn, wythnos pen-blwydd Margaret.
Yn bresennol bydd Maer y Barri, ynghyd â chwe aelod o deulu’r artist, sydd wedi teithio o Ganada.