Arwyddion ‘Croeso i Wrecsam’ yn ymddangos mewn dinasoedd yn yr UDA
05/08/2022Mae arwyddion yn hysbysebu cyfres ddogfen ‘Welcome to Wrexham’ wedi ymddangos yn ninasoedd Los Angeles ac Efrog Newydd yn yr Unol Daleithiau.
Mae hysbyseb enfawr i’w gweld tu allan i faes awyr LAX yn Los Angeles ac ar dacsis yn Efrog Newydd.
Bydd y rhaglen sy’n dilyn taith Clwb Pêl-droed Wrecsam yn eu blwyddyn gyntaf dan berchnogaeth Ryan Reynolds a Rob McElhenney, ar gael i wylwyr ym Mhrydain ar 25 Awst.
Mae'r gyfres yn dilyn taith y clwb dros y tymor diwethaf a'r hyn y mae dau o sêr Hollywood wedi ei ddysgu am redeg clwb pêl-droed yng Nghymru.
Darllenwch fwy yma.
Llun: Jon Champion
