Mark Drakeford yn cael ei urddo i'r Orsedd
Mae Mark Drakeford wedi ei urddo i'r Orsedd mewn seremoni ddydd Gwener.
Cafodd ei anrhydeddu ar ran gweithwyr allweddol Cymru am eu gwaith yn ystod y pandemig.
Mae Mark Drakeford wedi bod yn Brif Weinidog ers 2018, ar ôl iddo olynu Carwyn Jones fel arweinydd y blaid Lafur yng Nghymru.
Mae wedi cynrychioli etholaeth Gorllewin Caerdydd yn y Senedd ers 2011.
Diwrnod gwirioneddol arbennig yn yr @Eisteddfod.
— Mark Drakeford (@PrifWeinidog) August 5, 2022
Cymro balch iawn 🏴 pic.twitter.com/sBD0LrcTZp
Mewn datganiad ar ran yr Orsedd, dywed ei fod wedi ei urddo am ei "arweiniad tawel, clir a chydwybodol yn ystod cyfnod Covid-19".
Mae'r Ceidwadwyr Cymreig wedi beirniadu'r penderfyniad i urddo Mr Drakeford fel cam "gwleidyddol amlwg".
Ymhlith eraill i gael eu hurddo er anrhydedd ar faes yr Eisteddfod ddydd Gwener oedd y darlledwr Huw Edwards.
Llun: Llywodraeth Cymru