
Cyn-Gomisiynydd Plant Cymru wedi derbyn bygythiadau ar-lein yn ystod y pandemig
Cyn-Gomisiynydd Plant Cymru wedi derbyn bygythiadau ar-lein yn ystod y pandemig
Mae cyn-Gomisiynydd Plant Cymru wedi dweud iddi dderbyn bygythiadau ar-lein yn ystod ei chyfnod yn y rôl.
Dywedodd Dr Sally Holland wrth Newyddion S4C fod y pandemig wedi gwneud y swydd yn anoddach.
Fe gymerodd gyfnod oddi ar Twitter yn sgil y bygythiadau.
“Ces i profiad o trolls am y tro cyntaf ac oedd e’n anodd, ces i cyfnod o tri mis mas o Twitter,” meddai.
“Roedd fy nhîm yn gwneud Twitter a Facebook a popeth am tri mis mewn working hours ac o’n i’n gofalu amdanyn nhw.”

Llun: Childcomwales1 / Wikimedia Commons
Dywedodd Dr Holland ei bod hi’n anodd i ddarllen rhai o’r sylwadau yr oedd hi’n derbyn ar y cyfryngau cymdeithasol yn ystod y pandemig.
“Mae’n anodd i jyst picio lan y ffôn jyst cyn mynd i’r gwely wrth gwrs ac mae person yn dweud ‘You will hang for this’ neu rhywbeth fel hyn,” ychwanegodd.
“Mae e’n anodd i ddarllen. Maen nhw’n meddwl bod pobol fel comisiynwyr a gwleidyddion ddim yn pobol go iawn dwi'n credu.
“Ond ni jyst ar ein ffonau fel pobol arall a ni’n darllen pethau fel hyn ac mae’n anodd iawn i ddarllen.”
Dywedodd Dr Holland, a adawodd ei rôl ym mis Ebrill ar ôl saith mlynedd, bod bygythiadau yn erbyn merched yn y llygad cyhoeddus yn arbennig o wael.
“Dw i’n credu bod e’n gwael i merched os maen nhw’n comisiynwyr neu gwleidyddion,” meddai.
“Sai’n siŵr pam, ond dydy pobol ddim yn hoffi merched sy’n siarad mas sai’n credu.”