Pryder am ddyfodol sioeau amaethyddol yng Nghymru

Pryder am ddyfodol sioeau amaethyddol yng Nghymru

Mae yna bryder bod niferoedd yr anifeiliad fydd yn cael eu harddangos mewn sioeau amaethyddol yn llawer is na’r arfer. 

Yn ôl trefnwyr Sioe Dinbych a Fflint, roedd llai o wirfoddolwyr a chystadleuwyr eleni gan fod pobl wedi colli’r arfer o fynd i sioeau yn ystod y pandemig.  

Dywedodd Clwyd Spencer, un o’r trefnwyr wrth raglen Newyddion S4C: “Mae’r defaid i lawr o jyst iawn 400 i 300, ac mae’r gwartheg i lawr ryw o 90 i 60.

“’Dan ni ’di colli ambell i gefnogwr brwd o’r sioe ’ma yn y tair blynedd diwethaf, a does na’r un ohonon ni’n mynd yn iau, mae hynny’n bendant.

"Ac wedyn os ’di pobl yn mynd yn hŷn a ddim isho dod allani helpu i drefnu, mae’n rhaid i bobl iau ddod allan a chymryd eu lle nhw, ac wedyn os na ddôn nhw, wedyn mae pethau’n mynd i fynd i’r gwellt.”

Un o’r to iau ydy ei fab, Nico, sy’n cytuno bod angen i’w genhedlaeth yntau ymwneud mwy â’r sioeau er mwyn sicrhau bod hirhoedledd iddynt.

“Dwi’m yn gwybod os ’di Covid ’di helpu efo cadw’r sioe i fynd,” meddai, “ond dwi’n meddwl bod o yn bwysig.

“O’dd lot o bobl yn dod at ei gilydd, a gallu gweld pethau o’r byd amaethyddol a stwff eraill hefyd, so dwi’n meddwl bod o’n bwysig bod nhw’n dal i gadw’r sioe ’ma i fynd.”

'Pobol wedi mynd allan o’r arfer o arddangos'

Gyda sioe amaethyddol Môn yn dychwelyd ymhen pythefnos mae’r trefnwyr yn poeni mai’r un fydd y sefyllfa.   

 “Ar y cyfan, mae ’na lai o entries elenI,” meddai Wyn Williams, Is-lywydd Siôe Sir Fôn. 

 "Mae’r defaid yn o lew a’r moch yn dda iawn, ond llai o wartheg na’r arfer.

 “Rhwng y dairy a’r beef mae ’na tua 70, o’i gymharu a rhyw 120 mewn blynyddoedd cynt.

 “Er deud hynny, mae ’na tua 600 o entries defaid, sydd yn nifer da iawn. Mae hynny yn sefyllfa iach iawn tydi. Tua 800 sydd fel arfer.” 

 Fe ddywedodd Wyn Williams fod llai yn cystadlu eleni oherwydd tri rheswm yn bennaf:

 “Rheolau cwarantin wrth arddangos o sioe i sioe, y TB testio, a pobol wedi mynd allan o’r arfer o arddangos oherwydd y pandemig. 

 “Tydach chi ddim jest yn tynnu buwch o gae ar gyfer arddangos mewn sioe, mae isio blwyddyn o preparation. Mae o’n lot o waith.” 

 Roedd hi’n sefyllfa debyg yn y Sioe Frenhinol yn Llanelwedd, yn ôl Wyn Williams:  

“Yn y Royal Welsh roedd ’na tua 400 o wartheg.  

“A’r flwyddyn dda gewch chi 900, ar flwyddyn dda iawn dros 1000.” 

 Ond mae’n obeithiol ar gyfer y dyfodol gan ddeud y bydd niferoedd y cystadlu yn siwr o godi eto.  

“Mi fydd pethau yn ôl i drefn flwyddyn nesa a’r flwyddyn wedyn. Wrth i bobol ddod yn ôl i’r arfer o ymweld â sioeau.” 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.