
Meinir Pierce Jones yn ennill Gwobr Goffa Daniel Owen
Meinir Pierce Jones yw enillydd Gwobr Goffa Daniel Owen eleni.
Fe dderbyniodd yr anrhydedd mewn seremoni ar lwyfan y Pafiliwn yn y Brifwyl yn Nhregaron ddydd Mawrth.
Tasg yr 14 a ymgeisiodd oedd creu nofel heb ei chyhoeddi gyda llinyn storïol cryf, heb fod yn llai na 50,000 o eiriau.
Y beirniaid oedd Manon Steffan Ros, Emyr Llywelyn ac Ioan Kidd.
Cafodd Meinir Pierce Jones ei magu ar fferm ar gyrion Nefyn ac ar ôl crwydro dipyn daeth adref, ac yno y mae hi a’i chymar Geraint yn byw ers chwarter canrif a mwy.
Addysgwyd Meinir yn Ysgol Nefyn, Ysgol Glan y Môr, Pwllheli a Choleg Prifysgol Cymru, Bangor.
Ei swydd gyntaf oedd swyddog golygyddol gyda’r Cyngor Llyfrau yn Aberystwyth ac ar hyn o bryd mae’n gweithio fel golygydd creadigol gyda Gwasg y Bwthyn yng Nghaernarfon.
Yn y blynyddoedd rhwng hynny bu’n ennill ei bara menyn fel awdur a chyfieithydd a sgriptwraig yn bennaf. Ond bu tro ar fyd rhwng 2011 a 2019 pan fu’n gweithio fel rheolwr prosiect i ailagor a rhedeg Amgueddfa Forwrol Llŷn, ac yn ystod y cyfnod prysur a phur heriol hwn y dechreuodd y syniadau ar gyfer Capten gyniwair.
‘Chwip o nofel’
Wrth draddodi’r feirniadaeth, fe ddisgrifiodd Manon Steffan Ros y gwaith buddugol, 'Capten' gan Polly Preston, fel chwip o nofel ac un yr oedd wedi wedi gwirioni arni:
“Mae'r arddull yn gynnil ond yn hardd; Y cymeriadau yn gwbl real o'r dechrau un; Y stori'n crisialu cyfnod sydd wedi mynd, heb deimlo'n sentimental nac yn hiraethus. Mae'n anodd meddwl am unrhyw nofel debyg i hon, ond teimlaf fod cryfder y cymeriadau a'u perthynas nhw gyda'u cymunedau yn fy atgoffa o grefft Kate Roberts. Does dim amheuaeth gen i mai 'Capten' ydy nofel orau'r gystadleuaeth eleni. Mae hi'n hyfryd, hyfryd, hyfryd o nofel.
“Er i'r tri beirniad gytuno i ddechrau mai Polly Preston oedd enillydd haeddiannol Gwobr Goffa Daniel Owen eleni, ar ôl i ni'n tri gael un cip olaf, golygodd ail-ddarlleniad fod ail-feddwl, a bu trafodaethau pellach. Ni fu penderfyniad unfrydol.”

Ychwanegodd Manon Steffan Ros: “Pryder mawr Emyr Llywelyn ydi fod gormod o ddefnydd o Saesneg yn y nofel hon, a Ioan Kidd a minnau o'r farn mai dyfais oedd hyn, fod yr awdur yn defnyddio'r Saesneg fel symbol o ddieithrwch a'r chwithdod rhwng fydoedd y ddwy iaith.
“Mewn geiriau eraill, mae’r defnydd o Saesneg yn y nofel hon yn pwysleisio pwysigrwydd a harddwch y Gymraeg, ac yn nodi’n gelfydd y bygythiad sydd i’r cymunedau yn sgil y defnydd o’r Saesneg. Mae'n drueni, wrth gwrs, nad oedd y beirniaid yn unfryd, ac fel oeddwn i'n sôn gynna', bydd posib i chi ddarllen sylwadau'r tri ohonom ar bob un o'r ymgeisiadau yn y Cyfansoddiadau.
“Mae Ioan Kidd a minnau'n gwbl hyderus fod Polly Preston yn gwbl haeddiannol o Wobr Goffa Daniel Owen eleni, ac y bydd y nofel yn cael ymateb gwresog gan ddarllenwyr Cymru. Mae'n chwip o nofel, fedrai'm disgwyl i chi gael ei darllen hi! Llongyfarchiadau fil i Polly Preston, ac i'r holl gystadleuwyr.”
Llyfrau plant
Mae Meinir wedi cyhoeddi nifer o lyfrau ar gyfer plant dros y blynyddoedd yn cynnwys Y Cwestiwn Mawr, Modryb Lanaf Lerpwl, Bargen Siôn ac yn fwyaf diweddar Cnwcyn a’i Ffrindiau.
Cyhoeddodd ddwy nofel flaenorol ar gyfer oedolion sef Y Gongl Felys, a gyrhaeddodd Restr Hir Llyfr y Flwyddyn yn 2005 a Lili dan yr Eira. Ysgrifennodd Capten dros gyfnod COVID-19 pan ddaeth cyfnod o saib oddi wrth bwysau gwaith bob dydd ac ar adeg pan oedd yn dda wrth fyd arall i ddianc iddo weithiau.
Yn ei hamser sbâr, mae Meinir yn mwynhau garddio, mynd am dro, darllen, hwylio bwyd, treulio amser yng nghwmni ei theulu a ffrindiau a chynllunio ei nofel nesaf.
Mae’r wobr eleni yn rhoddedig gan Gareth, Cerys a Betsan Lloyd, Talgarreg a £5,000, (Prifysgol Aberystwyth).