Medal gyntaf i Dîm Cymru yng Ngemau'r Gymanwlad
29/07/2022
Mae Tîm Cymru wedi ennill eu medal gyntaf yng Ngemau'r Gymanwlad yn Birmingham ddydd Gwener.
Enillodd James Ball a Matt Rotherham y fedal arian yn y gystadleuaeth beicio Tandem B 1000m TT i ddynion.
Daeth Alex Pope a Steffan Lloyd o Gymru yn bumed yn y gystadleuaeth.
Yn ddiweddarach fe ennilodd merched Cymru fedal efydd yn y ras gwibio tîm.
Fe fydd y llwyddiant cynnar yn hwb i Dîm Cymru yn eu gobeithion i wella ar y saithfed safle yn rhestr y medalau yn y Gemau diwethaf ar yr Arfordir Aur yn Awstralia yn 2018.
Llun: British Cycling