Carcharu dyn am achosi marwolaeth dynes ifanc mewn gwrthdrawiad yn Llangollen

Mae dyn wedi ei garcharu am achosi marwolaeth dynes 19 oed yn Llangollen drwy yrru'n ddiofal dan ddylanwad alcohol.
Cafodd Marcus Pasley, 26, o Landysilio-yn-Iâl ger Llangollen ei ddedfrydu i ddwy flynedd a phedwar mis o garchar yn Llys y Goron Yr Wyddgrug am achosi marwolaeth Abby Hill.
Cafodd Miss Hill ei chludo i Ysbyty Maelor yn Wrecsam ychydig wedi'r gwrthdrawiad ar 3 Gorffennaf 2021.
Bu farw ar 5 Gorffennaf yn Ysbyty Brenhinol Prifysgol Stoke.
Cafodd Pasley ei wahardd rhag gyrru am ddwy flynedd a hanner hefyd.
Darllenwch ragor yma.