
Diffodd dŵr ar safle'r Eisteddfod er mwyn cynnal profion ansawdd
Mae'r cyflenwad dŵr ar safle'r Eisteddfod Genedlaethol yn Nhregaron wedi ei ddiffodd er mwyn cynnal profion ar ansawdd y dŵr.
Mae Newyddion S4C ar ddeall fod unigolion ar faes yr Eisteddfod wedi derbyn cyngor i beidio ag yfed y dŵr am y tro.
Dywedodd llefarydd ar ran yr Eisteddfod Genedlaethol fod cau'r system yn gam "rhagofalus" a'u bod yn darparu dŵr ar gyfer pobl ar y maes a'r maes carafanau.
Aeth y llefarydd ymlaen i ddweud fod yr Eisteddfod yn "aros am ganlyniadau'r profion diweddaraf" i fesur ansawdd y dŵr.
Ychwanegodd fod newidiadau i ansawdd y dŵr yn gallu digwydd "ar safleoedd adeiladu cymhleth fel meysydd yr Eisteddfod".

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Sir Ceredigion: "Diogelwch y cyhoedd yw ein prif flaenoriaeth ac mae’n hynod o bwysig i weithredu’n ofalus ac yn drylwyr wrth baratoi’r maes."
Pan mae digwyddiadau fel yr Eisteddfod yn cael eu cynnal, mae rhwydwaith dros-dro yn cael ei chreu i ddarparu dŵr ar gyfer digwyddiadau o'r math.
Pwysleisiodd llefarydd ar ran Dŵr Cymru nad oedd problem ehangach gydag ansawdd y dŵr yn ardal Tregaron ac mai mater i system breifat yr Eisteddfod oedd hyn.