Cynhyrchwyr Neighbours yn ystyried atgyfodi'r gyfres yn y dyfodol

Mae cynhyrchwyr yr opera sebon Awstralaidd Neighbours wedi dweud eu bod yn ystyried atgyfodi'r gyfres yn y dyfodol.
Daw hyn wrth i bennod olaf y rhaglen ddarlledu nos Iau ar ôl 37 blynedd ar y teledu.
Fe wnaeth bron i filiwn o bobl yn Awstralia wylio'r cymeriadau yn dweud hwyl fawr i Ramsey Street am y tro olaf, cyn iddi gael ei darlledu yn y DU ddydd Gwener.
Ond er gwaethaf y diweddglo emosiynol, mae'r sianel sy'n creu'r gyfres, Channel 10, yn ystyried atgyfodi'r rhaglen yn y dyfodol.
Yn ôl pennaeth cynnwys y sianel, Beverley McGarvey, mae'n bosib y bydd cymeriadau yn dychwelyd mewn cyfresi 'spin-off' a phenodau arbennig.
Darllenwch fwy yma.