Y Drenewydd allan o Ewrop
28/07/2022
Mae'r Drenewydd allan o'r Gyngres Europa ar ôl colli i Spartak Trnava.
Daw hyn wedi i garfan Chris Hughes golli dal y tîm o un gôl i ddim nos Iau.
Er i Aaron Williams sgorio’r gôl agoriadol o’r smotyn doedd ddim yn ddigon i ennill lle yn y drydedd rownd ragbrofol Cyngres Europa.
Fe gollodd Drenewydd y cymal cyntaf 4-1.
Does dim un tîm o Gymru ar ôl yn Ewrop erbyn hyn, wedi ‘r Seintiau Newydd golli yn erbyn Víkingur nos Fawrth.