Gemma Collins i ymddangos ar S4C
28/07/2022
Fe fydd Gemma Collins yn ymddangos ar S4C yn fuan, yn dilyn cyhoeddiad ddydd Iau.
Fe gafodd clip ei gyhoeddi ar gyfryngau cymdeithasol Hansh o'r seren realiti yn dweud ei bod am roi'r "GC yn S4C".
👀 #MwyNaDaffs @missgemcollins pic.twitter.com/kODDR5WVh7
— Hansh (@hanshs4c) July 28, 2022
Mae Gemma Collins yn fwyaf adnabyddus am ymddangos ar raglen The Only Way is Essex sy'n olrhain hanesion criw o bobl sy'n byw yn y sir yn Lloegr.
Mae hi hefyd wedi ymddangos ar I'm a Celebrity, Celebrity Big Brother a Dancing on Ice.
Ond, erbyn hyn fe fydd Gemma Collins, neu'r GC, yn ymgymryd â rhaglen gwbl newydd ar S4C.
Mae disgwyl y bydd mwy o fanylion yn cael eu cyhoeddi maes o law.