Galw am droi holl ysgolion Cymru'n rhai cyfrwng Cymraeg erbyn 2050

Galw am droi holl ysgolion Cymru'n rhai cyfrwng Cymraeg erbyn 2050
Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn galw ar i holl ysgolion cynradd ac uwchradd Cymru fod yn rhai cyfrwng Cymraeg erbyn y flwyddyn 2050.
Maen nhw am i Lywodraeth Cymru osod nod statudol mai'r Gymraeg fydd iaith y gyfundrefn addysg erbyn canol y ganrif hon.
Mae'r Gymdeithas wedi bod yn gweithio gyda Keith Bush, Cymrawd Cyfraith Cymru yng Nghanolfan Llywodraethiant Cymru, er mwyn troi ei syniadau yn "ddeddf" bosib.
Mae copi o'r ddogfen wedi dod i law Newyddion S4C, cyn iddi gael ei chyhoeddi'n swyddogol yn yr Eisteddfod Genedlaethol.
Mae rhai o brif argymhellion y “Ddeddf” yn cynnwys:
- gosod y nod statudol mai’r Gymraeg fydd iaith addysg yng Nghymru erbyn 1 Medi 2050, sy’n golygu y bydd pob ysgol yn un cyfrwng Cymraeg erbyn hynny
- disodli’r cynlluniau Cymraeg mewn addysg leol gydag un fframwaith cenedlaethol fydd yn anelu at y nod statudol ac yn cael ei ddiweddaru bob pum mlynedd
- atal awdurdodau lleol rhag agor ysgolion newydd sydd ddim yn ysgolion cyfrwng Cymraeg
- sefydlu targed statudol i bob athro newydd fedru addysgu drwy’r Gymraeg, a hyfforddiant iaith i athrawon sydd yn y gyfundrefn addysg yn barod
'Iaith addysg yng Nghymru'
Dywedodd Catrin Dafydd, aelod o grŵp addysg Cymdeithas yr Iaith Gymraeg: "Mae cyfle unwaith mewn cenhedlaeth gan Lywodraeth Cymru a’r Gweinidog Addysg, Jeremy Miles. Mae addysg cyfrwng Cymraeg i bawb o fewn cyrraedd am y tro cyntaf erioed.
"Rydyn ni’n galw am osod mewn statud mai’r Gymraeg fydd iaith addysg yng Nghymru, gyda phob ysgol ar lwybr i roi addysg cyfrwng Cymraeg i bawb erbyn 2050."
Ond dydy'r ffigyrau a'r fframwaith i brofi sut y byddai hyn yn gweithio ddim gan y Gymdeithas eto.
"Mae'r fframwaith yn yr arfaeth. Ry' ni wrthi. Ry' ni wedi gosod nod o 2050 am ein bod ni'n gwbod o weithredu llawer iawn o newidiadau yn y gyfundrefn bod modd sicrhau addysg Gymraeg i bawb erbyn 2050."
Ar hyn o bryd mae modd i rieni ddewis a ydyn nhw am i'w plant gael addysg Gymraeg ai peidio. Fe fyddai cynlluniau Cymdeithas yr Iaith yn diddymu’r dewis hwnnw.
"Dwi'n credu ei bod hi'n bwysig ein bod ni'n meddwl am y Gymraeg o bersbectif plentyn canolog. Ar hyn o bryd cymunedau difreintiedig, mudwyr a phobl groen liw sy'n lleia' tebygol o gael cyfleoedd cyfartal ieithyddol, ac felly mae'n hen bryd dwi'n credu bod ni'n gosod mewn statud bod hi'n deg i bawb gael yr un cyfleon."
Er mwyn i gynlluniau'r Gymdeithas lwyddo, byddai angen i holl weithlu addysg Cymru fedru'r Gymraeg.
Oes peryg felly y byddai athrawon profiadol yn dewis gadael y proffesiwn?
"Dim o gwbl. Taith yw hi, hefyd cyfle i roi cyfleon ac uwch-sgilio staff. Mae 6% o'n staff ni ledled Cymru ar hyn o bryd wedi mynegi bod ganddyn nhw rywfaint o Gymraeg.
"Mae'r rheiny ar blât i ni o ran uwchraddio’u sgiliau nhw. Ac mae enghreifftiau ar draws y byd, yng Ngwlad y Basg er enghraifft yn dangos bod modd gwedd newid sefyllfa iaith a rhoi cyfle cyfartal i bawb."
'Newidiadau pellgyrhaeddol'
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru bod "llwyddiant Cymraeg 2050 yn gofyn am gamau gweithredu a newidiadau pellgyrhaeddol, ac rydyn ni wedi ymrwymo i helpu ein hysgolion a’n gweithlu yn eu hymgais i sicrhau mwy o ddarpariaeth Gymraeg.
“Mae’r Gymraeg wrth galon ein cwricwlwm newydd, sy’n gosod camau cynnydd clir ar gyfer datblygiad yr iaith i’r holl ddysgwyr, gan gynnwys y rhai mewn ysgolion cyfrwng Saesneg.
“Mae angen gweithlu â’r sgiliau cywir hefyd, ac mae hynny’n golygu bod angen denu mwy o siaradwyr Cymraeg i’r proffesiwn a buddsoddi yn sgiliau iaith ein gweithlu presennol.
"Er mwyn rhoi sylw i hyn, yn ddiweddar cyhoeddwyd ein cynllun 10 mlynedd i gynyddu nifer yr athrawon sy’n siarad Cymraeg, gyda £9m i gefnogi a gweithredu’r cynllun eleni.
"Rydyn ni hefyd yn darparu mynediad am ddim i wersi Cymraeg i’r holl staff addysgu o fis Medi ymlaen.”
Bydd Cymdeithas yr Iaith yn lansio ei Deddf Addysg Gymraeg yn swyddogol yn yr Eisteddfod Genedlaethol ddechrau mis Awst.