Dadl arweinyddiaeth y Ceidwadwyr wedi'i hatal ar ôl i gyflwynydd lewygu

Cafodd yr ail ddadl rhwng Liz Truss a Rishi Sunak ei hatal ar ol i gyflwynydd y rhaglen lewygu.
Roedd golygydd Talk TV Kate McCann yn cyflwyno'r ddadl ddiweddaraf rhwng yr ymgeiswyr i fod yn arweinydd y Blaid Geidwadol a'r Prif Weinidog nesaf.
Roedd yr Ysgrifennydd Tramor Liz Truss yn siarad cyn cael ei tharfu gan sŵn rhywbeth yn chwalu yn y stiwdio. .
What on earth happened then? Hope everyone is ok! #TalkTV #TheSun pic.twitter.com/M9RvqVyCr3
— Harry Rutter (@harryjohnrutter) July 26, 2022
Mae Talk TV wedi dechrau darlledu yn dilyn y digwyddiad, gan ddweud bod yna "broblem feddygol."
Dywedodd y darlledwr bod y ddau ymgeisydd yn iawn ac nad oes unrhyw broblemau diogelwch.
Darllenwch fwy yma.