Aaron Ramsey yn gadael Juventus
Mae pêl-droediwr Cymru, Aaron Ramsey wedi gadael Juventus ar ôl i'r clwb ddod â'i gytundeb i ben
Fe ymunodd Ramsey â'r clwb yn Yr Eidal yn 2019 ar ôl treulio 11 mlynedd gydag Arsenal.
Mae'r chwaraewr canol cae wedi cael cyfnod rhwystredig yn Turin, gan chwarae llai na 50 gem yn ystod ei dair blynedd gyda'r clwb.
Treuliodd ail hanner y tymor diwethaf ar fenthyg gyda Rangers yn Yr Alban, ond eto roedd ei gyfleoedd chwarae yn brin iawn.
Er gwaethaf yr heriau diweddar ar lefel clwb, mae Ramsey yn dal i fod yn rhan allweddol o dîm Cymru.
Mae cefnogwyr y Wal Goch nawr yn gobeithio y daw mwy o gyfleoedd i'r chwaraewr o Gaerffili, wrth i Gymru baratoi i deithio i Qatar ar gyfer y Cwpan y Byd.
Mae yna adroddiadau y gallai Ramsey ddychwelyd i'r Uwch Gynghrair wrth i Everton a Nottingham Forrest fynegi diddordeb ynddo.
Llun: Juventus