Cymro wedi cael chwe thriniaeth ar ôl cael ei drywanu ym Mhortiwgal

Mae tad i bedwar o Gymru wedi cael chwe thriniaeth ar ôl cael ei drywanu ym Mhortiwgal, yn ôl ei fam.
Cafodd Joel Collins o Droed-y-rhiw, Merthyr Tudful, ei drywanu wrth gerdded adref ar ôl noson allan ar 4 Orffennaf.
Fe gafodd Mr Collins ei ruthro i ysbyty yn Faro ar ôl i aelod o’r cyhoedd ei weld yn anymwybodol ar y stryd gyda phedwar clwyf dwfn i’w stumog.
Wrth siarad â BBC Wales Today nos Lun, dywedodd ei fam, Sue Bridges ei fod yn "dad cariadus iawn i'w bedwar o blant".
Ychwanegodd Ms Bridges y pwysigrwydd o sicrhau fod pobl yn aros gyda'i gilydd ar noson allan.
Darllenwch ragor yma.
Llun teulu