Cymro mewn coma ar ôl cael ei drywanu ar wyliau ym Mhortiwgal

Mae tad i bedwar o Gymru mewn coma ar ôl cael ei drywanu deirgwaith mewn ymosodiad ar wyliau yn Algarve, Portiwgal.
Cafodd Joel Collins o Droed-y-rhiw, Merthyr Tudfil ei drywanu wrth gerdded adref ar ôl noson allan ar 4 Orffennaf.
Cafodd Mr Collins ei ruthro i ysbyty yn Faro ar ôl i aelod o’r cyhoedd ei weld yn anymwybodol ar y stryd gyda phedwar clwyf dwfn i’w stumog.
Mae wedi dioddef briwiau i’w pancreas, ysgyfaint, coluddion a stumog. Mae yn parhau mewn gofal dwys ar ôl pum llawdriniaeth, meddai ei chwaer Heidi Collins.
Rhagor yma.