Pedwar yn yr ysbyty wedi gwrthdrawiad yn Nyffryn Clwyd
23/07/2022
Mae pedwar yn yr ysbyty wedi gwrthdrawiad ar ffordd yr A494 ger Llanbedr, Dyffryn Clwyd.
Cafodd dau glaf eu cludo i gael triniaeth yn Ysbyty Brenhinol Stoke ac mae dau arall yn Ysbyty Maelor Wrecsam.
Dywedodd llefarydd ar ran Gwasanaeth Ambiwlans Cymru eu bod wedi'u galw am 13.12 brynhawn Sadwrn a'u bod wedi anfon pedwar cerbyd ymateb brys, tri ambiwlans a dau ambiwlans awyr.
Mae Heddlu'r Gogledd yn galw ar yrwyr i osgoi'r ardal.
Yn y cyfamser roedd damwain arall ar ffordd yr A494. Bu'n rhaid i Heddlu'r Gogledd gau'r ffordd rhwng Llanuwchllyn a Brithdir ger Dolgellau.