Teithwyr yn wynebu rhagor o oedi difrifol ym mhorthladd Dover
Mae'r awdurdodau ym mhorthladd Dover yng Nghaint wedi rhybuddio y bydd rhagor o oedi yn y porthladd dros y penwythnos.
Yn ôl adroddiadau ar fore dydd Sadwrn, fe all gymryd dwy awr i deithio milltir olaf y daith i deithwyr, cyn oedi pellach wrth wirio pasbortau teithwyr.
Mae awdurdodau yng Nghaint wedi datgan ‘digwyddiad sylweddol’ oherwydd y traffig.
Dywedodd llefarydd o'r porthladd fod bai ar yr awdurdodau yn Ffrainc am fethu paratoi'n ddigonol ar gyfer y prysurdeb.
Mae'r awdurdodau yn Ffrainc yn gwadu hyn, gan ddweud fod Brexit yn rhannol gyfrifol am ragor o archwiliadau sydd wedi ychwanegu at yr oedi i deithwyr.
Darllenwch y stori’n llawn yma.