Newyddion S4C

Cyhuddo dyn o 64 o droseddau wedi ymchwiliad mewn ymgymerwyr angladdau

legacy hull.png

Mae dyn wedi ei gyhuddo o 64 o droseddau yn gysylltiedig â 254 o ddioddefwyr yn dilyn ymchwiliad i weddillion dynol mewn ymgymerwyr angladdol yn Hull.

Mae Robert Bush, 47 oed, wedi ei gyhuddo o 30 achos o atal claddedigaeth gyfreithlon a 30 achos o dwyll trwy gynrychiolaeth ffug yn ymwneud â chyrff gafodd eu darganfod mewn safle ymgymerwyr angladdau ar Ffordd Hulse ym mis Mawrth y llynedd.

Mae hefyd wedi ei gyhuddo o fasnachu drwy dwyll yn achos cynlluniau angladdol gafodd eu gwerthu rhwng Mai 2012 a Mawrth 2024. Roedd 172 o ddioddefwyr yn gysylltiedig â'r cyhuddiad hwn.

Mae wedi ei gyhuddo o un achos o dwyll mewn cysylltiad â lludw dynol sydd yn gysylltiedig â 50 dioddefwr rhwng Awst 2017 a Mawrth 2024 meddai Heddlu Humberside.

Mae Bush hefyd wedi ei gyhuddo o ddau achos o ddwyn gan elusennau rhwng Medi 2022 a Mawrth 2024.

Fe fydd yn ymddangos yn Llys Ynadon Hull ar 25 Mehefin.

Mae dynes 55 oed a gafodd ei harestio ym mis Gorffennaf 2024 wedi’i rhyddhau'n ddi-gyhuddiad, meddai’r heddlu.

Fis ar ôl i’r ymchwiliad ddechrau ym mis Mawrth y llynedd, dywedodd Heddlu Humberside fod mwy na 2,000 o alwadau wedi’u derbyn ar linell ffôn bwrpasol gyda “nifer sylweddol … yn ddealladwy yn bryderus am adnabod llwch eu hanwyliaid”.

Cadarnhaodd y llu hefyd ei bod yn amhosib adnabod unrhyw un o'r lludw dynol gan ddefnyddio proffiliau DNA, ac fe fyddai hyn wedi bod yn "newyddion torcalonnus" i deuluoedd.

Llun: PA

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.