Tri dyn wedi marw mewn gwrthdrawiad ym Mro Morgannwg
Tri dyn wedi marw mewn gwrthdrawiad ym Mro Morgannwg
Mae tri dyn wedi marw mewn gwrthdrawiad ym Mro Morgannwg brynhawn dydd Mawrth.
Digwyddodd y gwrthdrawiad ger Tresimwn (Bonvilston) ychydig cyn 17:00 ar ffordd yr A48.
Roedd y gwrthdrawiad rhwng dau gerbyd, car Ford Puma glas a lori Scania coch a du.
O ganlyniad i’r gwrthdrawiad mae dyn 51 oed o Borthcawl, dyn 34 oed o Ben-y-bont ar Ogwr a dyn 48 oed o Lynrhedynog wedi marw.
Bu'r ffordd ar gau am rai oriau ac mae Heddlu'r De wedi diolch i'r gymuned leol am eu hamynedd a'u dealltwriaeth.
Mae’r heddlu’n apelio ar unrhyw un a allai fod wedi gweld y gwrthdrawiad neu a allai fod â lluniau camera cerbyd i gysylltu ar 101 gan ddyfynnu rhif digwyddiad 2500102402.”