Gwasanaethau cyhoeddus Cymru'n 'wynebu bwlch ariannol o £65m'
Mae gwasanaethau cyhoeddus Cymru yn wynebu bwlch ariannol o £65 miliwn oherwydd y cynnydd mewn treth yswiriant gwladol gan y Canghellor Rachel Reeves.
Dyma'r rhybudd gan Mark Drakeford, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, sydd wedi beirniadu penderfyniad y Canghellor i beidio â thalu’n llawn am gost cyfraniadau uwch yswiriant gwladol cyflogwyr i gyrff cyhoeddus.
Dywedodd Mr Drakeford ei bod yn “anghywir i wneud hynny”.
Mae'r diffyg, a allai fod cymaint â £65m medd Mr Drakeford, i'w briodoli i lywodraeth y DU yn defnyddio fformiwla Barnett i ddosbarthu cyllid gyda'r bwriad o helpu gwasanaethau cyhoeddus i gwrdd â'u costau uwch.
Wrth siarad yn y Senedd ddydd Mercher, dywedodd Mr Drakeford: “Rwy’n meddwl ei bod yn anghywir i wneud hynny, ac rwyf wedi dweud hynny mewn termau uniongyrchol wrth Brif Ysgrifennydd y Trysorlys pan oedd yma ar gyfer y Pwyllgor Cyllid ddiwedd mis Chwefror, fel y gwnaeth gweinidogion cyllid yr Alban a Gogledd Iwerddon.”
Fformiwla Barnett
Caiff fformiwla Barnett ei ddefnyddio i benderfynu faint o arian sy'n cael ei roi i wledydd datganoledig.
Mae wedi cael ei feirniadu – yn enwedig gan wleidyddion Cymru – am fod yn seiliedig ar faint y boblogaeth yn hytrach nag angen.
“Pan wnaeth Llywodraeth y DU ei phenderfyniad, fe ddylai ad-dalu gwasanaethau cyhoeddus Cymru am gostau gwirioneddol y cynnydd mewn cyfraniadau yswiriant gwladol, nid cyfran Barnett o’r costau yn Lloegr,” meddai Mr Drakeford.
“Fe allai fod cymaint â £65 miliwn yn brin o’r hyn rydyn ni’n amcangyfrif y bydd yn rhaid i wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru, o fewn diffiniad y Canghellor ei hun, ei dalu.”
Mae'r llywodraeth wedi dweud bod y cynnydd mewn cyfraniad yswiriant gwladol cyflogwyr yn angenrheidiol i helpu i ariannu gwasanaethau cyhoeddus.
Dywedodd Alun Davies o’r Blaid Lafur nad oedd fformiwla Barnett “yn addas i’r diben bellach”, gan ddadlau ei fod yn “sicrhau nad yw Cymru’n cael tegwch o ran dosbarthu cyllid ar draws y Deyrnas Unedig”.
'Twll du'
Mewn datganiad, dywedodd Heledd Fychan, llefarydd Plaid Cymru ar gyllid: “Mae Cymru yn wynebu twll du o £65 miliwn yng nghyllid ein gwasanaethau cyhoeddus diolch i gynnydd mewn cyfraniadau yswiriant gwladol Llafur.
“Dyma enghraifft arall eto, pe bai angen un, o ‘annhegwch sylfaenol’ y fformiwla ariannu a sut mae San Steffan – a Llafur – yn cymryd Cymru’n ganiataol.
“Mae Lloegr yn cael ad-daliad llawn ar gyfer codiadau yswiriant gwladol, nid yw Cymru yn cael ei had-dalu.
“Mae hwn yn gyhuddiad damniol o’r ‘bartneriaeth mewn grym’ honedig, gan ei bod yn amlwg nad oes gan Lafur yng Nghymru unrhyw ddylanwad ar fympwyon eu penaethiaid yn Llundain.”
Mae'r Trysorlys wedi cael cais am ymateb.