Newyddion S4C

Cymro Cymraeg wedi ei benodi'n bennaeth ar Heddlu Gibraltar

Owain Ceri Richards

Mae Cymro Cymraeg wedi ei benodi’n bennaeth nesaf ar Heddlu Gibraltar.

Dechreuodd Owain Richards ar ei yrfa drwy weithio mewn cymunedau gwledig yng Nghymru ym 1996, yna fel ditectif i Heddlu Dyfed Powys.

Symudodd i Lundain yn 2015, lle bu’n arwain timau oedd yn mynd i’r afael â gangiau, troseddau cyllyll a cham-fanteisio ar blant.

Roedd hefyd yn bennaeth ar Fwrdeistref Westminster fel Prif Uwch-arolygydd, sef un o’r unedau plismona lleol mwyaf y DU.

Enillodd radd Meistr mewn Troseddeg Gymhwysol a Rheolaeth yr Heddlu o Brifysgol Caergrawnt.

Fe fydd yn gadael Heddlu'r Met ar 30 Mehefin gan ddechrau ei swydd newydd yn fuan wedyn.

Wrth ymateb i’w benodiad, dywedodd Owain Richards ei fod yn “anrhydedd mawr cael fy mhenodi’n Gomisiynydd Heddlu Brenhinol Gibraltar”, a’i fod yn “edrych ymlaen” at arwain y llu wrth “wasanaethu a diogelu pobl Gibraltar.

“Mae plismona’n ddibynnol ar ymddiriedaeth, partneriaeth a phroffesiynoldeb” meddai, “ac rwyf wedi ymrwymo i gryfhau perthnasoedd cymunedol, mynd i’r afael â throseddu, a sicrhau’r safonau uchaf o wasanaeth.

“Byddaf yn canolbwyntio ar gadw Gibraltar yn ddiogel i bawb sy’n byw, yn gweithio ac yn ymweld yma, ac edrychaf ymlaen at weithio gyda swyddogion, staff a phartneriaid i gyrraedd y nod hwnnw.”

Dywedodd Prif Weinidog tiriogaeth Gibraltar, yr Anrhydeddus Fabian Picardo KC AS: ‘Hoffwn longyfarch Owain Richards ar ei benodiad i fod yn Gomisiynydd nesaf Heddlu Brenhinol Gibraltar i olynu Richard Ullger. 

"Roeddwn wrth fy modd gyda safon uchel iawn y ceisiadau a ddenodd y rôl hon. 

"Ein bwriad fu cael yr adnoddau gorau posibl ar gyfer yr RGP ar yr adeg hon pan fo plismona yn wynebu nifer o heriau newydd a chymhleth. 

"Mae’r Llywodraeth yn edrych ymlaen at weithio gyda Mr Richards i ddelio â nhw a chadw Gibraltar yn ddiogel.’

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.