Gwella effeithlonrwydd gwresogi tai yn 'allweddol' i arafu newid hinsawdd'

24/07/2022

Gwella effeithlonrwydd gwresogi tai yn 'allweddol' i arafu newid hinsawdd'

Wrth i Gymru gofnodi ei thymheredd uchaf erioed yr wythnos ddiwethaf, bu rhaid i lawer o bobl feddwl am ffyrdd i gadw'n oer yn eu cartrefi. 

Gyda'r tymheredd eithafol o boeth yn amlygu pa mor aneffeithiol yw adeiladau Prydain am gadw oerfel i mewn, mae cwestiynau wedi codi dros allu ein tai i ddelio gyda thymereddau uwch yn y dyfodol. 

Mae disgwyl i dywydd Cymru gynhesu yn sgil newid hinsawdd, felly oes angen dechrau adeiladu tai i ddelio gyda'r gwres yn well?

Mae Ifan Glyn yn gyfarwyddwyr Ffederasiwn y Meistr Adeiladwyr ac fe ddywedodd wrth Newyddion S4C: "Dwi'n gwybod ni wedi profi tymheredd uchel iawn ar ddechrau'r wythnos, ond dwi'n meddwl bod hi ddim digon eithafol i gael effaith ar y ffordd da ni'n cynllunio ein tai eto. 

"Ond yn y dyfodol yn amlwg os 'di hyn yn dod yn rhywbeth sydd yn digwydd yn amlach, mae 'na bosibilrwydd y bydd rhaid i ni newid y ffordd y ni'n adeiladu ein tai." 

Mae Mr Glyn yn credu bod rhaid i'r diwydiant adeiladu addasu i ostwng ei allyriadau carbon yn lle addasu polisïau adeiladu mewn ymateb i'r hinsawdd sydd i ddod. 

Mae rhyw 20% o allyriadau carbon yn y DU yn dod wrth wresogi a phweru ein tai. 

Dywedodd Ifan Glyn fod rhaid ailwampio’r tai sydd eisoes wedi'u hadeiladau i fod yn fwy effeithlon, yn lle adeiladau tai sydd yn gallu ymdopi gyda'r gwres yn well. 

"Mae gan y diwydiant adeiladu rôl fawr i'w chwarae yn torri allyriadau carbon.

"Mae'n hollbwysig bod ni'n cymryd camau i sicrhau bod ein tai yn allyrru llai o garbon trwy bethau fel gwell inswleiddio - bod ni'n cymered boilers nwy allan o'n tai a rhoi technoleg fwy gwyrdd i mewn ein tai i gynhesu nhw. "

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.