Ymarferion sioe agoriadol yr Eisteddfod yn 'mynd o nerth i nerth'

Ymarferion sioe agoriadol yr Eisteddfod yn 'mynd o nerth i nerth'

Mae'r paratoadau ar gyfer sioe agoriadol yr Eisteddfod Genedlaethol, Lloergan, yn "mynd o nerth i nerth" gyda dim ond wythnos i fynd nes y brifwyl yn Nhregaron. 

Mae cast y sioe wedi bod yn gweithio'n galed fel rhan o ymarferion yn Theatr Felinfach ger Aberaeron. 

Mae Lloergan, a fydd yn rhan o'r perfformiadau cyntaf yn y Pafiliwn eleni, wedi'i ysgrifennu gan y nofelydd a chantores Fflur Dafydd. 

Mae'n dilyn y stori o ofodwraig o'r enw Lleuwen Jones sydd yn gwireddu breuddwyd o fod y ferch gyntaf i gamu ar y lleuad. 

Dywedodd Fflur Dafydd, sydd yn wyneb cyfarwydd ar lwyfan y pafiliwn ar ôl ennill y Fedal Ryddiaith yn 2006 a Gwobr Goffa Daniel Owen yn 2009, fod y stori yn un "gyfoes a chyffrous."

"Stori am fenyw o Geredigion sy'n gweithio ar y lleuad, yn 2050, ond yn trio cynnal bywyd teuluol prysur ar y ddaear ar yr un pryd," meddai. 

"Mae'n stori sydd yn gallu cael ei gwerthfawrogi ar sawl lefel - alegori yw hi mewn gwirionedd - am ddilyn eich breuddwydion, am fod yn uchelgeisiol, a sut mae modd cydbwyso dau fyd."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.