Dyn wedi marw ar ôl taro ei ben ar fferi i Gaergybi

Mae cwest wedi clywed fod dyn 83 oed wedi marw ar ôl disgyn a tharo ei ben ar fferi oedd yn teithio rhwng Dulyn a Chaergybi.
Roedd James Doyle o Kildare yn teithio o Iwerddon i Gymru pan ddisgynodd i lawr grisiau a tharo ei ben.
Bu farw o'i anafiadau yn yr ysbyty ar 14 Gorffennaf.
Cafodd y cwest yng Nghaernarfon ei ohirio gan fod ymchwiliadau yn parhau.
Darllenwch fwy yma.