AS Ceidwadol yn galw am adeiladu traffordd rhwng y gogledd a'r de
AS Ceidwadol yn galw am adeiladu traffordd rhwng y gogledd a'r de
Mae aelod o Senedd Cymru wedi galw ar Lywodraeth Cymru i ystyried adeiladu traffordd rhwng y gogledd a'r de.
Fe ddaeth galwad Janet Finch-Saunders, aelod Ceidwadol dros Aberconwy, yn dilyn pryderon yn ei hetholaeth am yr anhawster o deithio i Gaerdydd.
Dywedodd ei bod wedi derbyn ymateb i'w chais am draffordd newydd gan Ddirprwy Weinidog Newid Hinsawdd y Llywodraeth, Lee Waters.
Yn ei ymateb iddi, dywedodd y gweinidog nad oedd adeiladu traffordd yn cysylltu'r de a'r gogledd yn rhan o'r Cynllun Trafnidiaeth Cenedlaethol.
Ni fyddai'r fath gynllun yn cydymmfurfio gyda dyheuadau'r cynllun Llwybr Newydd chwaith, meddai - cynllun sydd yn hybu'r defnydd o drafnidiaeth gynaliadwy.
Wrth drafod ymateb y llywodraeth, dywedodd Janet Finch-Saunder: “Gydag ansawdd chwerthinllyd o wael ac annibynadwy y gwasanaethau rheilffordd sy’n cysylltu Aberconwy â De Cymru, a Llywodraeth Cymru wedi diddymu’r cyswllt awyr, y realiti i’m hetholwyr a llawer ledled Cymru wledig, yw mai ceir preifat yw’r ffurf fwyaf cynaliadwy ac ymarferol o trafnidiaeth.
“Gyrrodd trigolion di-rif a minnau i’r Sioe Frenhinol yr wythnos hon, ac fe’n hatgoffwyd i gyd unwaith eto pa mor wael yw’r priffyrdd rhwng Gogledd a De Cymru, ac fe fydd amser y daith ond yn gwaethygu os byddwn yn gorfod gyrru 20mya drwy gymunedau niferus rhwng Conwy a Chaerdydd.
“Os ydym am gael Cymru sy’n gryfach yn economaidd ac yn fwy unedig, nid yw ond yn rhesymol disgwyl y byddai’r Dirprwy Weinidog dros Newid Hinsawdd o leiaf wedi cynnal asesiadau o ddichonoldeb cael ffordd neu draffordd sy’n cysylltu’r Gogledd a’r De.
“Mae'n anfantais i bobol ac economi Aberconwy a Chymru nad oes gan Lywodraeth Cymru unrhyw gynllun ar gyfer traffordd sy’n cysylltu Gogledd a De”.