Y ras i rif 10: Sunak a Truss yn dechrau haf o ymgyrchu
Fe fydd y ddau ymgeisydd olaf yn y ras i fod yn arweinydd newydd ar y blaid Geidwadol ac yn Brif Weinidog Prydain yn dechrau haf o ymgyrchu ddydd Iau.
Dros yr wythnosau nesaf bydd Rishi Sunak a Liz Truss yn ceisio ennill cefnogaeth aelodau Ceidwadol ar lawr gwlad fydd yn penderfynu pwy fydd yn cael y swydd.
Bydd tua 160,000 o aelodau’r blaid yn pleidleisio ar-lein neu drwy’r post a disgwylir iddynt dderbyn eu pleidleisiau erbyn 5 Awst, gyda chanlyniad terfynol i’w gyhoeddi ar 5 Medi.
Fe ddaeth y cyn Ganghellor Rishi Sunak a’r Ysgrifennydd Tramor Liz Truss i’r brig yng nghanlyniad y rownd ddiweddaraf cafodd ei gyhoeddi brynhawn Mercher.
Bydd y ddau yn cychwyn chwe wythnos o hustyngau drwy wynebu cwestiynau gan gynghorwyr Torïaidd mewn digwyddiad caeedig yn San Steffan, cyn mynd o amgylch y wlad i gyflwyno eu hachos i’r aelodaeth mewn ymddangosiadau a fydd yn cael eu ffrydio ar-lein.
Bydd hustyngau swyddogol cyntaf y Blaid Geidwadol ar gyfer aelodau yn cael eu cynnal yn Leeds ddydd Iau nesaf, a bydd 11 digwyddiad arall yn cael eu cynnal ar draws y DU.
Dywedodd cadeirydd y blaid geidwadol a’r AS Torïaidd Andrew Stephenson, sy’n trefnu’r etholiad: “Ar adeg mor bwysig i’n cenedl, rydym yn ymwybodol fod y Ceidwadwyr nid yn unig yn dewis arweinydd newydd ond hefyd yn dewis y prif weinidog nesaf, ac mae’n gyfrifoldeb rydym yn ei gymryd o ddifrif."
Bydd dwy ddadl ar y teledu hefyd, un yn cael ei chynnal gan y BBC ar 25 Gorffennaf, a'r llall yn cael ei chynnal gan Sky News ar 4 Awst.
Mae arolygon barn ar hyn o bryd yn awgrymu mai'r Ysgrifennydd Tramor Ms Truss, sydd wedi beirniadu Mr Sunak am godi trethi yn ystod ei gyfnod fel canghellor, yw'r ymgeisydd a ffafrir ar gyfer yr aelodaeth.